Ardal adnabyddus yng nghanol Llundain yw Piccadilly Circus. Mae'n enwog am y cerflun o Anteros (a elwir yn boblogaidd yn Eros) sy'n coffa Iarll Shaftesbury, dyngarwr o'r 19eg ganrif, ac hefyd am yr hysbysebion ar un o'r adeiladau yno. Cynlluniwyd Piccadilly Circus yn wreiddiol ym 1819 gan John Nash, fel rhan o gynllun i weddnewid strydoedd y West End ar gyfer y Tywysog Rhaglaw. Cyfeiria'r gair "circus" at siap crwn y groesffordd a oedd yn cysylltu Piccadilly a Regent Street, ac er nad yw'n grwn bellach mae wedi cadw yr enw. Lleolir gorsaf tiwb Piccadilly Circus yno.