Phoebe (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Phoebe

Phoebe yw'r fwyaf allanol o loerennau Sadwrn a wyddys. Mae Phoebe bron yn bedairgwaith mor bell oddi wrth Sadwrn na Iapetws:

Cylchdro: 12,952,000 km oddi wrth Sadwrn

Tryfesur: 220 km

Cynhwysedd: 4.0e18 kg

Ym mytholeg Roeg mae Phoebe yn ferch i Wranws a Gaia ac yn nain i Apolo ac Artemis.

Cafodd y lloeren ei darganfod gan Pickering ym 1898.

Mae'r mwyafrif o loerennau Sadwrn yn ddisglair ond mae albedo Phoebe yn isel iawn (.05), bron yn ddu. Mae pob un o loerennau Sadwrn ac eithrio Phoebe ac Iapetws yn cylchio o fewn plaen cyhydedd Sadwrn. Mae cylchdro Phoebe yn gogwyddo bron yn 175 gradd (Mae pegwn y gogledd Phoebe yn wynebu'r cyfeiriad gwrthwynebol i begwn y gogledd Sadwrn).

Oherwydd cylchdro echreiddig 'wysg ei gefn' ac albedo anarferol Phoebe gallai'r lloeren fod yn gomed neu yn wrthrych o Wregys Kuiper sydd wedi cael ei gipio gan Sadwrn. Mae data oddi wrth y chwiliedydd Cassini'n gadarnhau'r syniad hwn gyda'r darganfyddiad o garbon deuocsid yn ei chreigiau. Mae Phoebe yn ymddangos i fod yn gemegol debyg i Blwton a Thriton.

Ac eithrio Hyperion, Phoebe ydy'r unig un o loerennau Sadwrn sydd ddim yn cylchio'n gydamserol.

Gallai deunydd o arwyneb Phoebe sydd wedi cael ei dorri ymaith gan drawiadau meteor meicrosgopig fod yn gyfrifol am yr arwynebau tywyll ar Hyperion ac ar hemisffer arweiniol Iapetws.