Penrhyn Kola
Gwedd
| Math | gorynys |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Oblast Murmansk |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 100,000 km² |
| Gerllaw | Môr Barents, Môr Gwyn, Llyn Imandra, Afon Kola, Afon Niva |
| Cyfesurynnau | 68°N 36°E |
![]() | |

Penrhyn yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Penrhyn Kola (Ffineg: Kuola, Samieg Guoládatnjárga). Saif yn Oblast Murmansk yn wleidyddol, gyda'r Môr Gwyn i'r de a Môr Barents i'r gogledd.
Mae'r boblogaeth yn gymysgedd o Rwsiaid a Sami. Ceir nifer o afonydd a llynnoedd yma, gydag amrywiaeth o bysgod ynddynt.
