Peint

Oddi ar Wicipedia

Uned o gyfaint yw'r peint a ddefnyddir yn y System Imperial Brydeinig a'r System Arferol Americanaidd. Yng Ngwledydd Prydain mae'n cyfateb i 34.68 modfedd gwibig (568.26 cm ciwbig) neu ⅛ galwyn. Yn yr Unol Daleithiau mae'r mesur sych (33.6 modfedd giwbig neu 550.6 cm ciwbig) ychydig yn wahanol i'r mesur hylifol (28.9 modfedd giwbig neu 473.2 cm ciwbig). Yn y ddwy system mae'r peint yn hafal i ddau gwpan, ac mae ddau beint yn hafal i chwart.[1]

Defnyddio'r gair Cymraeg 'Peint' ar wydrau cwrw[golygu | golygu cod]

Bu rhaid i fragdy Cwrw Llŷn frwydro am yr hawl i ddefnyddio'r gair 'PEINT' yn unig ar eu gwydrau cwrw, gyda Swyddfa Fesur Genedlaethol a Safonau Masnach Gwledydd Prydain yn gyntaf yn honni fod rheolau Ewrop yn gwahardd defnyddio’r Gymraeg fel mesur cyhoeddus ac yna'n honni y byddai'r gair Cymraeg yn drysu pobl. Yn dilyn ymyrraeth gan swyddfa'r Comisiynydd Iaith, cafodd y cwmni'r hawl yn 2014 i ddefnyddio'r Gymraeg, a'r Gymraeg yn unig, ar eu gwydrau cwrw.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) pint (measurement). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2014.
  2.  Bragdy’n ennill yr hawl i gael ‘Peint’ ar wydrau cwrw. Golwg360 (23 Mehefin 2014). Adalwyd ar 26 Mehefin 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am safonau neu fesuriadau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.