Neidio i'r cynnwys

Cwrw Llŷn

Oddi ar Wicipedia
Cwrw Llŷn
Math
menter gydweithredol
Math o fusnes
cwmni
Sefydlwyd2011
PencadlysNefyn
Gwefanhttp://cwrwllyn.cymru/ Edit this on Wikidata

Bragdy Cymreig yn Nefyn, Penrhyn Llŷn yw Cwrw Llŷn.

Sefydlwyd y bragdy bychan yn 2011 fel cwmni cydweithredol a symudodd y cwmni i safle fwy yn Nefyn yn 2012.[1]

Defnyddio'r gair 'Peint' ar wydrau cwrw

[golygu | golygu cod]

Bu rhaid i'r cwmni frwydro am yr hawl i ddefnyddio'r gair 'Peint' yn unig ar eu gwydrau cwrw, gyda Swyddfa Fesur Genedlaethol a Safonau Masnach Gwledydd Prydain yn gyntaf yn honni fod rheolau Ewrop yn gwahardd defnyddio’r Gymraeg fel mesur cyhoeddus ac yna'n honni y byddai'r gair Cymraeg yn drysu pobl. Yn dilyn ymyrraeth gan swyddfa'r Comisiynydd Iaith, cafodd y cwmni'r hawl yn 2014 i ddefnyddio'r Gymraeg, a'r Gymraeg yn unig, ar eu gwydrau cwrw.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Gwefan Swyddogol