Pattaya

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Traeth Pattaya

Dinas yng Ngwlad Tai ydy Pattaya. Fe'i lleolir ar arfordir dwyreiniol Gwlff Gwlad Tai, tua 165 km i'r de-ddwyrain o Bangkok. Mae'r ddinas wedi ei lleoli o fewn Amphoe Bang Lamung (Banglamung) yn nhalaith Chonburi.

Ardal fwrdiestrefol hunan-lywodraethus ydy Dinas Pattaya sy'n cynnwys Nong Prue a Na Kluea yn ogystal â rhannau o Huai Yai a Nong Pla Lai. Lleolir "Y Ddinas" yn yr ardal diwydiannol, ynghyd â Si Racha, Laem Chabang, a Chonburi. Mae ganddi boblogaeth o dros 100,000 (2007).

Mae Pattaya hefyd yn ganolfan ar gyfer Ardal Fetropolitanaidd Pattaya-Chonburi, y cytref yn Nhalaith Chonburi, ac mae ganddi boblogaeth o dros 1,000,000 (2010).