Parc Cwmdonkin
Math | parc dinesig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6217°N 3.9685°W |
Mae Parc Cwmdonkin yn barc dinesig sydd wedi'i leoli yn ardal yr Uplands o Abertawe, de Cymru. Ceir bandstand, ardal chwarae i blant, gerddi dŵr, cyrtiau tenis a lawnt fowlio yno.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuwyd defnyddio'r tir hwn gan y cyhoedd pan grëwyd cronfa ddŵr Comdonkin tua 1850 gan William Henry Smith a'r Swansea Waterworks Company. Dengys cofnodion Bwrdeistref Abertawe[1] a phapur newydd y Cambrian [2] fod arian cyhoeddus wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cymryd drosodd a rhedeg “the destructive pit at Cwmdonkin, euphemistically called a reservoir”.[3].
Gwnaed yr awgrym cyntaf i dirweddu'r tir o amgylch y cronfa ddŵr ym 1853 ond dim ond ym 1874 y prynodd Cyngor Abertawe dau gae wrth Mr James Walters am £4650 er mwyn creu'r parc. Agorwyd y parc ar y 24ain o Orffennaf, 1874. Bu peth beirniadaeth fod y parc mewn ardal gyfoethog, dosbarth canol o'r dref; arweiniodd hyn at yr "Ymgyrch Mannau agored" o dan arweiniad William Thomas o Lan a ymgyrchodd am fwy o barciau yn yr ardaloedd tlotach, dosbarth gweithiol.[4]
Llenwyd Cronfa ddŵr Cwmdonkin gyda rwbel yn y 1950au a dirweddu i fod yn ardal i blant chwarae.
Cysylltiadau â Dylan Thomas
[golygu | golygu cod]Magwyd y bardd Dylan Thomas yn 5, Cwmdonkin Drive, ger y parc. Roedd y parc yn ffynhonnell gref o ysbrydoliaeth iddo ac ymddengys yn ei waith, gan gynnwys ei ddarllediadau radio Return Journey a Reminiscences of Childhood, ac yn fwyaf enwog yn ei gerdd The hunchback in the park.
Rhoddwyd cofeb i Thomas yn y parc ym 1963 sy'n cynnwys llinellau o'r gerdd “Fern Hill”.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ I'w gweld yn West Glamorgan Archive Service
- ↑ "Prosiect Mynegai Cambrian Cyngor Abertawe". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-15. Cyrchwyd 2009-06-07.
- ↑ Golygyddol o bapur newydd the Cambrian, 14 Mai 1869
- ↑ Davies, Rice a J. Roberts, "Prize Essays on the desirability and advantages of recreation grounds for Swansea", Swansea: Cambrian Books Publishing Company, 1895.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Safle'r cyngor lleol Archifwyd 2007-12-12 yn y Peiriant Wayback
- Mwy o wybodaeth Archifwyd 2008-12-31 yn y Peiriant Wayback
- Golygfa o'r parc o wefan Gathering the Jewels Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback