Neidio i'r cynnwys

Parc Cenedlaethol Llyn Turkana

Oddi ar Wicipedia
Parc Cenedlaethol Llyn Turkana
Delwedd:LakeTurkanaSouthIsland.jpg, Series of lava rock pools at southern end of Lake Turkana.jpg
Daearyddiaeth
GwladBaner Cenia Cenia
Arwynebedd161,485 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau3.05131°N 36.50367°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Parc cenedlaethol yng ngogledd Cenia yw Parc Cenedlaethol Llyn Turkana. Mae'n cynnwys tri parc cenedlaethol unigol, Parc Cenedlaethol Sibiloi ar lan Llyn Turkana a dwy ynys yn y llyn ei hun.

Dynodwyd Parc Cenedlaethol Llyn Turkana yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1997. Ymhlith y rhesymau dros ei ddynodi, roedd ei bwysigrwydd i adar mudol, a'i bwysigrwydd fel magwrfa i Grocodil y Nîl, yr Afonfarch a nifer o rywogaethau o nadroedd. Mae hefyd yn nodedig am fod llawer o ffosilau hominid cynnar wedi eu darganfod yma.