Panasen-y-dŵr lydanddail

Oddi ar Wicipedia
Sium latifolium
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Sium
Enw deuenwol
Sium latifolium
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol ydy Panasen-y-dŵr lydanddail sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Sium latifolium a'r enw Saesneg yw Greater water-parsnip. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Pannas y dŵr llydanddail, Dwfr-foronen mwyaf, Dyfr-foronen, Dyfr-foronen llydanddail, Moronen y dŵr llydanddail, Pannas y dŵr mwyaf a Panasen y dŵr.

Mae'n frodorol o Ewrop, Kazakhstan, a Siberia.[1]

Gwlyptir yw ei gynefin ee rhostir neu wernen, glannau llynnoedd a gall fyw yn y dŵr. Mae'n llysieuyn lluosflwydd gyda bonyn gwag a rhychiog a all dyfu i uchder o ddwy fetr. Mae'r dail oddeutu 30 cm o hyd a cheir blodau gwyn.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sium latifolium. Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback. Germplasm Resources Information Network (GRIN).
  2. Forbes, R. Sium latifolium – greater water-parsnip. Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. Northern Ireland Priority Species. National Museums Northern Ireland.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: