Palindrom

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sgwâr Sator; 79 OC.

Gair, ymadrodd neu frawddeg sy'n darllen yr un peth yn ôl ac ymlaen yw palindrom neu balindrôm.[1]

Enghraifft o balindrom Cymraeg yw "A dyma'r addewid diweddar am y da",[2] "Lladd dafad ddall",[3] "Wyneb di-wên i newid benyw", "Nia, ni lefara'n ara' fel 'i nain" a "Bara i arab". Palindromau o ran ystyr (ond nid llythrennau) yw'r geiriau 'nawr' a 'rwan'. O'u gosod at ei gilydd gyda chysylltair 'a', ceir: 'nawr a rwan', sy'n balandromig. Ceir rhai geiriau palandromig unigol, gan gynnwys: 'radar', 'madam' a 'cic'. Cyfansoddodd y Prifardd Eirian Davies linell o gynghanedd baladromig: "Od nad wyf i fyw dan do" ('Hen dramp').

Benthyciwyd y gair palidrom neu palindrôm[3] o'r Saesneg palindrome a fathwyd gan y dramodydd Ben Jonson, o'r gwreiddiau Groeg palin (πάλιν; "eto") a dromos (δρóμος; "ffordd, cyfeiriad").

Enghreifftiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir enghreifftiau o balindromau mor bell yn ôl â 79 OC - ar graffiti a sgwennwyd ar un o furiau'r Herculaneum wrth droed Mynydd Vesuvius, sef 'Sgwâr Sator'. Brawddeg o Ladin ydyw wedi'i cherfio mewn carreg: Sator Arepo Tenet Opera Rotas, sef 'Mae Arepo sur yn ymdrechu i ddal yr olwynion'. Mae'n balindromig gan fod llythyren gyntaf pob gair yn ffurfio'r gair cyntaf, yr ail lythrennau'n ffurfio'r ail air ayb. Gellir felly ei ddarllen mewn pedair ffordd (neu bedwar cyfeiriad), ac felly mae'n balindromig.

Ceir pos Lladin hefyd: "In girum imus nocte et consumimur igni" ("awn am dro fin nos a chawn ein llosgi") sy'n ddisgrifiad o ambell wyfyn (neu 'bry'r gannwyll'), ond perthyn i gyfnod diweddarach y mae hwn, mae'n debyg - i'r Oesoedd Canol.

Arferai'r Groegiaid sgwennu'r geiriau, "Golch dy bechodau, nid dy wyneb yn unig!" sef: ΝΙΨΟΝ ΑΝΟΜΗΜΑΤΑ ΜΗ ΜΟΝΑΝ ΟΨΙΝ ("Nipson anomemata me monan opsin|Nīpson anomēmata mē mōnan ōpsin", gan ysgythru'r lythyren "ps" drwy dorri'r un lythyren Groegaidd Ψ, psi), ar fedyddfaen. Daeth hyn yn arferiad ffasiynol a ymledodd i nifer o wledydd eraill gan gynnwys eglwysi yn Lloegr e.e. Eglwys y Santes Fair, Nottingham, basilica Hagia Sophia yn Nghaercystennin a'r fedyddfaen yn eglwys St. Stephen d'Egres, Paris, Worlingworth (Suffolk), Harlow (Essex), Knapton (Norfolk), St Martin, Ludgate (Llundain), ac eglwys yn Hadleigh (Suffolk).

Rhifau palindromig[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr achos yma, rhifau (neu ddigidau o fewn y rhif) sy'n cael eu troi wyneb yn waered (neu eu gosod ar yn ôl) yn hytrach na'r llythrennau e.e. 2992. Mae plant a phobl ifanc yn eu hastudio oherwydd yr elfen o hwyl sy'n ymwneud â phalindrom. Mae'r rhif cysefin palindromig yn rhif palindromig sydd hefyd yn rhif cysefin, er enghraifft: 191 a 313.

Ffracsiwn parhaol yw palindom syn cael ei ailadrodd pan fo yn gyfanrif.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Y gwyddonydd - Cyf. 17, Rhif 4 Rhagfyr 1979; adalwyd 2 Ebrill 2015
  2. D. Geraint Lewis. Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 71.
  3. 3.0 3.1  palindrôm. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 1 Ebrill 2015.