Palikur

Oddi ar Wicipedia
Palikur
Enghraifft o'r canlynolpobloedd brodorol Edit this on Wikidata
MamiaithArawakan edit this on wikidata
Label brodorolPalikur Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,712, 720 Edit this on Wikidata
GwladBrasil, Guyane Edit this on Wikidata
Enw brodorolPalikur Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pobl frodorol yn Ne America yw'r Palikur. Maent yn byw ar ffin dwyrain Gaiana Ffrengig ac ar bwys yr afon Oyapock. Maen nhw’n siarad yr iaith Arawak. Mae 1,300 person yn y llwyth.

Y Palikur oedd un o’r llwythau cyntaf i gwrdd a’r archwilwyr o Ewrop yn 1507. Maen nhw’n byw gan bysgota yn bennaf, ond maen nhw’n ffermio ac yn hela hefyd. Manioc, sy’n cael ei ddefnyddio i wneud cacennau fflat a chwrw, yw ei brif cnwd, ond maen nhw hefyd yn tyfu pupur, coed citrig, coffi, mangoau a chotwm. Yn 1950, roeddent yn masnachu croen yr ‘alligator’ oedd yn byw yn yr afonydd, ond diflannodd yr ‘alligator’ o’r afon felly nid oeddent yn gallu cario ymlaen gyda’r fasnach yma.