Pêl-feryn
Gwedd
![]() | |
Math | beryn rhowlio ![]() |
---|---|
Rhan o | fidget spinner ![]() |
![]() |
Mae pêl-feryn (hefyd pelferyn a pelen draul) yn fath o feryn gydag elfen rolio, sydd yn defnyddio peli i gynnal yr ysgariaeth rhwng rhannau mudol y beryn.
Fe'i ddyfeisiwyd yn wreiddiol yn 1794 gan y dyfeisiwr Cymreig, Philip Vaughan. Roedd Cymro arall yn flaengar iawn yn y maes hwn, sef Joseph Henry Hughes o Birmingham a gofrestrodd batent am bêl-feryn amgen yn 1877. Dywedodd papur newydd y Times ar y pryd fod ei batent yn hynod werthfawr ("highly valued").[1]