Orch

Oddi ar Wicipedia

Creadur dychmygol yng ngwaith J. R. R. Tolkien ydy'r orch[angen ffynhonnell] (lluosog:orchod). Mae'r creaduriaid yn cael eu defnyddio yn y gemau chwarae-rôl Dungeons & Dragons a hefyd mewn gemau eraill, yn cynnwys gêmau fideo.

Esboniodd Tolkien fod yr orchod wedi eu creu allan o ellyllon (elves). Mae'r orchod yn siarad iaith y cewri ym mhedwerydd argraffiad y gêm "Daeardai a Dreigiau" ond maent yn siarad "orcheg" yn y fersiwn cynharach.

Mae ganddynt groen lwyd, neu wyrddlwyd, a dannedd mawr (ysgithrau). Maen nhw'n ffyrnig a drygionus fel arfer, ac yn casau'r ellyllon a'r corrod yn bennaf.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gêm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.