One Night in the Tropics
| Enghraifft o: | ffilm |
|---|---|
| Lliw/iau | du-a-gwyn |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Dyddiad cyhoeddi | 1940 |
| Genre | ffilm gomedi, ffilm gerdd |
| Hyd | 82 munud |
| Cyfarwyddwr/wyr | A. Edward Sutherland |
| Cynhyrchydd/wyr | Leonard Spigelgass |
| Cwmni cynhyrchu | Universal Studios |
| Cyfansoddwr | Jerome Kern |
| Dosbarthydd | Universal Studios |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0b7gw9 |
Ffilm gomedi o 1940 yw One Night in the Tropics sy'n nodedig am fod y ffilm gyntaf i Abbott a Costello actio ynddi. Rhestrir y ddau fel is-actorion ond maent yn hawlio'r ffilm gyda phump o'u rŵtins clasurol, gan gynnwys fersiwn gryno o "Who's On First?" O ganlyniad i'w gwaith ar y ffilm hon roedd gan Universal ddiddordeb cytundeb dwy ffilm.
Gwnaeth eu ffilm nesaf, Buck Privates, nhw yn sêr. Jerome Kern oedd yn gyfrifol am ganeuon y ffilm gyda'r geiriau gan Dorothy Fields. Mae'r ffilm yn seiliedig ar Love Insurance, nofel ym 1914 gan Earl Derr Biggers, crëwr Charlie Chan.[1]
Fe'i ffilmiwyd fel ffilm fud 1919 - Love Insurance gan Paramount gyda Bryant Washburn a Lois Wilson yn serenu, ac yna ym 1925 gan Universal - The Reckless Age.
Plot
[golygu | golygu cod]Mae Jim "Lucky" Moore (Allan Jones), gwerthwr yswiriant, yn llunio polisi newydd ar gyfer ei ffrind, Steve (Robert Cummings): 'polisi yswiriant cariad', a fydd yn talu $ 1-miliwn os na fydd Steve yn priodi ei ddyweddi, Cynthia (Nancy Kelly). Wedi'i annog gan ddadl Jim nad yw Jim erioed wedi gorfod talu allan ar bolisi fel bod y briodas yn beth sicr, mae Steve yn derbyn. Mae'r briodas yn dod o dan y fantol gan gyn-gariad Steve, Mickey (Peggy Moran), a Modryb Kitty (modryb Cynthia). Mae'r polisi wedi'i warantu gan berchennog clwb nos, Roscoe (William Frawley), sy'n anfon dau orfodwr - Abbott a Costello - i sicrhau bod y briodas yn digwydd fel y cynlluniwyd. Mae pawb sy'n ymwneud â'r sefyllfa yn hwylio neu hedfan i San Marcos (gwlad ffuglennol yn Ne America), lle mae cymhlethdod arall yn codi, pan mae Jim yn syrthio mewn cariad gyda Cynthia. Mae Jim yn priodi Cynthia, ond nid oes rhaid i Roscoe dalu'r $1 miliwn oherwydd bod Steve yn priodi Mickey yn y diwedd.
Cast
[golygu | golygu cod]- Allan Jones fel Jim Moore
- Nancy Kelly fel Cynthia Merrick
- Bud Abbott fel Abbott
- Lou Costello fel Costello
- Robert Cummings fel Steve Harper
- Mary Boland fel Aunt Kitty Marblehead
- William Frawley fel Roscoe
- Peggy Moran fel Mickey Fitzgerald
- Leo Carrillo fel Escobar
- Don Alvarado fel Rodolfo
- Nina Orla fel Nina
- Richard Carle fel Mr. Moore
- Charlie Hall fel y stiward ar yr SS Atlantica (heb ei achredu yn y ffilm)
- Edgar Dearing fel yr heddwas efo'r llygad du (heb ei achredu yn y ffilm)
- Kathleen Howard fel Judge McCracken (heb ei achredu yn y ffilm)
- Charles Murphy fel y meddwyn yn y cwrt (heb ei achredu yn y ffilm)
- Barnett Parker fel gwas Harper (heb ei achredu yn y ffilm)
- Jerry Mandy fel y ''hot dog vendor'' (heb ei achredu yn y ffilm)
- Denny Sullivanfel fel y gyrrwr tacsi (heb ei achredu yn y ffilm)
Y cynhyrchiad
[golygu | golygu cod]Ffilmiwyd One Night in the Tropics o 26 Awst hyd 30 Medi 1940 o dan deitl gwaith y ffilm, Riviera, sioe gerdd Jerome Kern nad oedd wedi ei datblygu i fod yn ffilm o 1937 a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Danielle Darrieux;[1][2]
Y gobaith oedd y byddai'r ffilm yn helpu cyflwr ariannol Paramount. Ni wnaeth lawer i helpu, ond arweiniodd at gyfres o ffilmiau Abbott a Costello a oedd yn lwyddiant i Paramount.[3]
Ail-ddefnyddiwyd caneuon Kern yn y ffilm.[4][5]
Roedd ganddo sawl teitl cyn i Universal benderfynu ar One Night in the Tropics, gan gynnwys Moonlight in the Tropics, Love Insurance, a Caribbean Holiday.[6]
Ychydig cyn dechrau'r cynhyrchiad, ar 21 Awst 1940, roedd Jones a Cummings yn westeion ar sioe radio Abbott a Costello yn hyrwyddo'r ffilm.
Cafodd y ffilm ei dangosiad cyntaf yn y byd yn nhref enedigol Costello, Paterson, New Jersey ar Hydref 30, 1940.[1]
Ail-ryddhawyd y ffilm (ar 69 munud) gan Realart Pictures ym 1950 gyda The Naughty Nineties ac ym 1954 gyda Little Giant.[1]
Mae'r ffilm hon wedi'i rhyddhau ddwywaith ar DVD. Y tro cyntaf, ar The Best of Abbott a Costello Volume 1 yn 2004, ac eto yn 2008 fel rhan o Abbott and Costello: The Complete Universal Pictures Collection .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Furmanek, Bob; Ron Palumbo (1991), Abbott and Costello in Hollywood, New York: Perigee Books
- ↑ "United States Court of Appeals For the Ninth Circuit - Cummings vs Universal 1944". Internet Archive. t. 565.
- ↑ Stanley Green, Hollywood Musicals Year by Year, 2il arg. (Hal Leonard Corporation 1999), t.98
- ↑ Hemming, Roy (1999), The Melody Lingers On: The Great Songwriters and Their Movie Musicals, Newmarket Press, p. 105, ISBN 978-1-55704-380-1, https://archive.org/details/melodylingerson00royh
- ↑ SCREEN NEWS HERE AND IN HOLLYWOOD. (July 31, 1940). New York Times (1923-Current File) Retrieved from https://search.proquest.com/docview/105290980
- ↑ Nollen, Scott Allen, Abbott and Costello on the Home Front: A Critical Study of the Wartime Films (2009) Retrieved from https://books.google.com/books?id=rloU-4ntD_EC&pg=PA10&lpg=PA10&dq=moonlight+in+the+tropics+costello&source=bl&ots=wPo1p_7izp&sig=vfxte920pLnBl-WZIZlA7DbA4P4&hl=en&sa=X&ved=0ahUKEwj_pKDvwN_aAhUGTN8KHaJ0CesQ6AEIazAN#v=onepage&q=moonlight%20in%20the%20tropics%20costello&f=false
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) One Night in the Tropics ar wefan Internet Movie Database
- Ffilmiau 1940
- Ffilmiau Abbott and Costello
- Ffilmiau gan gyfarwyddwyr ffilm gwrywaidd Saesneg
- Ffilmiau du a gwyn o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau comedi o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau Saesneg
- Ffilmiau o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau a gynhyrchwyd gan Universal Pictures
- Ffilmiau gyda llai na 10 o actorion lleisiol