Oliverio Girondo
Gwedd
| Oliverio Girondo | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Awst 1891 Buenos Aires |
| Bu farw | 24 Ionawr 1967 Buenos Aires |
| Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr, bardd |
| Priod | Norah Lange |
| llofnod | |
Bardd Sbaeneg ac arlunydd o'r Ariannin oedd Oliverio Girondo (17 Awst 1891 – 24 Ionawr 1967) sy'n nodedig am ddelweddaeth yr avant-garde a'r symbolaeth yn ei gerddi sy'n nodweddiadol o fudiad Ultraísmo.
Ganwyd i deulu cefnog yn Buenos Aires, yr Ariannin. Teithiodd ar draws Ewrop yn ystod ei ieuenctid. Cyfranodd at gylchgronau llenyddol Archentaidd gan gynnwys Proa a Martín Fierro. Girondo oedd un o sefydlwyr y cwmni cyhoeddi Editorial Sudamericana yn 1939. Bu farw yn Buenos Aires yn 75 oed.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Veinte poemas para ser leídos en el tranvía (1922).
- Calcomanías (1925).
- Espantapájaros (1932).
- Persuasión de los días (1942).
- Campo nuestro (1946).
- En la masmédula (1956).
- Topatumba (1958).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Oliverio Girondo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2019.