Olive Thomas

Oddi ar Wicipedia
Olive Thomas
Ganwyd20 Hydref 1894 Edit this on Wikidata
Charleroi, Pennsylvania Edit this on Wikidata
Bu farw10 Medi 1920 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, model, actor llwyfan, sgriptiwr, actor ffilm Edit this on Wikidata
PriodJack Pickford, Jack Pickford Edit this on Wikidata
Olive Thomas gan yr arlunydd Alberto Vargas; "Memories of Olive"

Actores a model Gwyddelig-Americanaidd oedd Olive Thomas (20 Hydref 189410 Medi 1920) a oedd hefyd yn actio mewn ffilmiau di-lais. Ei henw iawn oedd Oliva R. Duffy, ac weithiau roedd hi'n dweud mai ei henw iawn oedd Oliveretta Elaine Duffy.[1]

Yn 1914, cystadleuodd Thomas yn "The Most Beautiful Girl in New York City" ac enillodd. Dyna ddechrau ei gyrfa fel actoes a model. roedd yn rhan o'r grwp theatr o'r enw Ziegfeld Follies, yn Broadway, Efrog Newydd o 1915-?. Priododd yr actor Jack Pickford, brawd Mary Pickford, ym 1916.

Lladdodd ei hun drwy gymryd gwenwyn (arian byw).

Plentyndod[golygu | golygu cod]

Cafodd ei magu i deulu dosbarth gweithiol, Gwyddelig yn ardal Pittsburgh o Charleroi, Pennsylvania. Gweithiwr dur oedd ei thad, James Duffy, a fu farw yn 1906.[2] Ailbridodd ei mam Harry VanKirk a chafodd Thomas hanner chwaer, Harriet, yn 1914. Roedd hefyd ganddi ddau frawd: James Duffy (ganwyd 1896) a William Duffy (ganwyd 1899). Er mwyn ennill cyflog i gadw'r teulu gweithiodd mewn siop am $2.75 yr wythnos.[3] Yn Ebrill 1911, yn 16 oed, priododd Bernard Krugh Thomas yn McKees Rocks. Parhaodd y briodas tan 1913, a symudodd Thomas i Efrog Newydd.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Toton (1919)
Blwyddyn Teitl Yn chwarae Nodiadau
1916 Beatrice Fairfax Rita Malone Rhif 10: Playball
1917 A Girl Like That Fannie Brooks Ffilm ar goll
1917 Madcap Madge Betty
1917 An Even Break Claire Curtis
1917 Broadway Arizona Fritzi Carlyle
1917 Indiscreet Corinne Corinne Chilvers
1917 Tom Sawyer Choir Member Uncredited
1918 Betty Takes a Hand Betty Marshall
1918 Limousine Life Minnie Wills Ffilm ar goll
1918 Heiress for a Day Helen Thurston Ffilm ar goll
1919 Toton the Apache Toton/Yvonne Ffilm ar goll
1919 The Follies Girl Dol
1919 Upstairs and Down Alice Chesterton Teitl arall: Up-stairs and Down
Ffilm ar goll
1919 Love's Prisoner Nancy, later Lady Cleveland
1919 Prudence on Broadway Prudence Ffilm ar goll
1919 The Spite Bride Tessa Doyle
1919 The Glorious Lady Ivis Benson
1919 Out Yonder Flotsam
1920 Footlights and Shadows Gloria Dawn Ffilm ar goll
1920 Youthful Folly Nancy Sherwin Sgwennwr
Ffilm ar goll
1920 The Flapper Ginger King
1920 Darling Mine Kitty McCarthy Ffilm ar goll
1920 Everybody's Sweetheart Mary Rhyddhau wedi ei marwolaeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Golden 2001, p. 181)
  2. (Vogel 2007, p. 13)
  3. Pitz, Marylynne (26 Medi 2010). "Olive Thomas, the original 'Flapper' and a Mon Valley native, still fascinates". Pittsburgh Post-Gazette. Cyrchwyd 28 Medi 2010.