Olive Grace Walton
Olive Grace Walton | |
---|---|
Ganwyd | 1886 Tonbridge |
Bu farw | 1937 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Olive Grace Walton (ganwyd 1886) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Fe'i ganed yn Tonbridge yn 1886 yn ferch i fasnachwr gwinoedd, Charles Walton a'i wraig a oedd yn wreiddiol o Swydd Rydychen. Bu i'r teulu fyw yn Ardenhurst, Tunbridge Wells.
Swffragét
[golygu | golygu cod]Yn ôl y papur Suffrage Annual a gyhoeddwyd yn 1913 ymunodd Olive â'r National Union of Women's Suffrage Societies (NUWSS) yn Tunbridge Wells ym 1908 ac ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (sef y WSPU) ym Mawrth 1911. Daeth yn filwriaethus iawn ac roedd yn weithgar yn y WSPU lleol ac yn Llundain.
- yn 1911 cafodd ei harestio fel rhan o ddirprwyaeth i Dŷ'r Cyffredin, ac yn dilyn achos llys, treuliodd wythnos yng Ngharchar Holloway.
- ym Mawrth 1912, fe'i cyhuddwyd hi unwaith eto - y tro hwn o ddifrod maleisus (malicious damage) gan iddi dorri ffenestri siopau.
- yn ddiweddarach cafodd ddedfryd o bedwar mis o garchar yng Ngharchar Aylesbury. Yn ystod y tymor hwn aeth ar streic newyn (ympryd) a gorfodwyd hi i fwyta.[1]
Ym Mawrth 1913 yn dilyn perfformiad gan gerddorfa yn y Tŷ Opera, yn Llundain aeth aeth hi a chyfaill iddi i guddio i'r rhan honno a ddefnyddir gan y gerddorfa. Arhosodd y ddwy yno tan y noson wedyn pan oedd cyfarfod pwysig o'r Rhyddfrydwyr yn yr adeilad. Thorrodd Walton ar draws y siaradwyr gan weiddi, "Pa bryd ydych am ddelio gyda'r mater o roi pleidlais i ferched?" Adroddwyd yn y papur lleol iddi gael ei chario allan o'r adeilad yn ddiseremoni.
Y Rhyfel Byd Cyntaf
[golygu | golygu cod]Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd gyda'r Women Police Volunteers, ynghyd â sswffragetiaid eraill. Ar ddiwedd y Rhyfel, danfonwyd Inspector Walton' i Iwerddon lle bu'n gweithio yn erbyn y Gwyddelod, yn cynnal ymchwiliadau i'w gwaith ac yn ceisio canfod gwrthryfelwyr Gwyddelig.[2]
Cafodd ddamwain moto beic, lle cafodd anafiadau difrifol.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o'r Undeb Cenedlaethol dros yr Hawl i Fenywod Bleidleisio ac Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ kent.ac.uk; Adalwyd 4 Mai 2019.
- ↑ irishconstabulary.com; adalwyd 4 Mai 2019.