Oblast Omsk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Oblast Omsk.
Lleoliad Oblast Omsk yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Omsk (Rwseg: О́мская о́бласть, Omskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Omsk. Poblogaeth: 1,977,665 (Cyfrifiad 2010) gyda'r mwyafrif (1.15m) yn byw yn Omsk ei hun.

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Siberia yn Siberia. Prif nodwedd ddaearyddol yr oblast yw Afon Irtysh a'i llednentydd mawr, Afon Ishim, Afon Om, Afon Osha, ac Afon Tara sy'n llifo ar draws Gwastadedd Gorllewin Siberia. Mae'r oblast yn ffinio gyda Oblast Tyumen yn y gogledd a'r gorllewin, Oblast Novosibirsk ac Oblast Tomsk yn y dwyrain, a gyda Casachstan yn y de.

Sefydlwyd Oblast Omsk ar 7 Rhagfyr 1934, yn yr hen Undeb Sofietaidd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.