Noughts and Crosses

Oddi ar Wicipedia

Deuawd cerddorol yw Noughts and Crosses sy'n dod yn wreiddiol o Dreharris[1] yn Ne Cymru a nawr yn seiliedig ym Merthyr Tydfil. Mae gan aelodau y band, gyda'r ffugenwau 'Oxo' a 'Lego Man', 20 mlynedd o brofiad cerddorol rhyngddynt. Maent yn chwarae amrywiaeth eang o gerddoriaeth, yn amrywio o glasuron roc o'r 60au a 70au, i anthemau indi modern[1].

Dywed y band eu bod yn cael eu hysbrydoliaeth o nifer helaeth o fandiau, gan gynnwys: Led Zeppelin, The Killers, Arctic Monkeys, Foo Fighters, Snow Patrol, Paulo Nutini, Bruce Springstein, The Eagles, T-Rex, Elvis a Kings of Leon[1].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]