Nortel
Rhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Math o fusnes | Cyhoeddus |
---|---|
Byrfodd stoc | Yng nghynt Nodyn:TSX |
Diwydiant | |
Tynged | Methdaliad |
Sefydlwyd | Rhagfyr 7, 1895 Montreal, Quebec, Canada |
Diddymwyd | Chwefror 2, 2013 |
Pencadlys | Ottawa, Ontario, Canada |
Gweithwyr |
|
Rhiant-gwmni | AT&T / Bell Canada (1895–1956) Bell Canada (1956–1983)[2] BCE Inc. (1983–2000) |
Roedd Nortel Networks Corporation ( Nortel ), Northern Telecom Limited yng ngynt, yn wneuthurwr offer telathrebu a rhwydweithio data rhyngwladol o Ganada efo'i bencadlys yn Ottawa, Ontario. Fe'i sefydlwyd ym Montreal, Quebec yn 1895 fel y Northern Electric and Manufacturing Company. Hyd at setliad antitrust yn 1949, roedd Northern Electric yn eiddo'n bennaf i Bell Canada a Western Electric Company i Bell System, gan gynhyrchu llawer iawn o offer telathrebu yn seiliedig ar ddyluniadau trwyddedig Western Electric. [3]
Yn ei anterth, roedd Nortel yn cyfri am fwy na thraean o gyfanswm prisiad yr holl gwmnïau a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Toronto (TSX), gan gyflogi 94,500 o bobl ledled y byd. [4] Yn 2009, fe wnaeth Nortel ceisio am amddiffyniad methdaliad yng Nghanada a'r Unol Daleithiau, gan sbarduno gostyngiad o 79% yn ei bris stoc corfforaethol. Yr achos methdaliad oedd yr un mwyaf yn hanes Canada a gadawodd bensiynwyr, cyfranddalwyr, a chyn-weithwyr gyda cholledion enfawr. Erbyn 2016, roedd Nortel wedi gwerthu biliynau o ddoleri mewn asedau. [5] Cymeradwyodd llysoedd yn yr Unol Daleithiau a Chanada setliad methdaliad yn 2017.
Hanes[golygu | golygu cod]
Gwreiddiau[golygu | golygu cod]
Creodd Alexander Graham Bell agweddau technegol y ffôn yn Gorffennaf 1874, tra'n byw gyda'i rieni ar eu fferm yn Tutela Heights, yn Brantford, Ontario . [6] [7] Yn ddiweddarach bu'n mireinio ei ddyluniad yn Brantford ar ôl cynhyrchu brototeip gweithiol yn Boston. [8] Cafodd ffatri ffôn cyntaf Canada ei chreu gan James Cowherd o Brantford. Roedd yr adeilad yn adeilad brics tair stori a wnaeth dechrau gynhyrchu ffonau ar gyfeer Bell System, gan arwain at y dinas yn cael ei adnabod fel The Telephone City. [9] [note 1]
Ar ôl marwolaeth Cowherd yn 1881 a arweiniodd at gau ei ffatri Brantford, fe gaeth adran gynhyrchu fecanyddol o fewn Cwmni Bell Telephone Canada ei chreu. Fe gaeth cynhyrchiad offer ffôn Canada ei throsglwyddo i Montreal yn 1882, er mwyn lleihau effaith o gyfyngiadau ar fewnforio offer ffôn o'r Unol Daleithiau [14]
Yn ogystal â ffonau, bedair blynedd yn ddiweddarach, dechreuodd yr adran weithgynhyrchu switsfyrddau, gan greu y Switsfwrdd Magneto Safonol 50-llinell yng nghyntaf. [15] Ehangodd yr adran weithgynhyrchu fach yn flynyddol gyda thwf a phoblogrwydd y ffôn, gan arwain at gael o weithwyr ym 1888. [15] Erbyn 1890 roedd wedi'i thrawsnewid yn gangen o weithrediadau ei hun gyda 200 o weithwyr, ac roedd ffatri newydd yn cael ei hadeiladu.
Wrth i'r gangen weithgynhyrchu ehangu, cynyddodd ei allu cynhyrchu tu fas i'r galw am ffonau, ac roedd yn wynebu cau am sawl mis y flwyddyn heb weithgynhyrchu cynhyrchion eraill. [15] Gwaharddodd siarter Cwmni Ffôn Bell Canada y cwmni i adeiladu cynhyrchion eraill. Ym 1895, trodd Bell Telephone Canada ei fraich weithgynhyrchu i adeiladu ffonau i'w gwerthu i gwmnïau eraill, yn ogystal â chynhyrchion eraill, megis blychau larwm tân, blychau galwadau stryd yr heddlu, ac offer galw adran dân . Ymgorfforwyd y cwmni hwn fel y Northern Electric and Manufacturing Company Limited.
- ↑ "Notice of Debtors' Motion for Entry of an Order Pursuant to 11 U.S.C. § 105, 363 and 1108 Authorizing the Debtors to Terminate the Debtors' Long-Term Disability Plans and the Employment of the LTD Employees" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar February 2, 2013. Cyrchwyd August 6, 2012.
- ↑ "Northern Electric- A Brief History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 22, 2015. Cyrchwyd August 21, 2015.
- ↑ "Intel gets antitrust approval for Nortel asset buy". Reuters (yn Saesneg). 2011-06-24. Cyrchwyd 2023-03-12.
- ↑ Hasselback, Drew; Tedesco, Theresa (September 27, 2014). "The fate of once-mighty Nortel's last billions lies in the hands of two men". Financial Post. National Post. Cyrchwyd November 19, 2014.
- ↑ Ireton, Julie (October 7, 2016). "Nortel executives continue drawing bonuses years after bankruptcy: Since 2009 bankruptcy, Nortel executives have collected $190M US in retention bonuses". CBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 7, 2016. Cyrchwyd October 7, 2016.
- ↑ Bruce 1990, pp. 122–123.
- ↑ Patten, William; Bell, Alexander Melville.
- ↑ MacLeod, Elizabeth.
- ↑ Sharpe, Robert; Canadian Military Heritage Museum.
- ↑ Reville 1920, p. 322.
- ↑ Prevey, W. Harry (ed.); Collins, Larry. Electricity, The Magic Medium Archifwyd November 6, 2013, yn y Peiriant Wayback., Thornhill, ON: IEEE, Canadian Region, 1985, p. 4, ISBN 0-9692316-0-1.
- ↑ Nortel Networks (2011). "History of Nortel: 1874 to 1899". Nortel Networks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 19, 2013. Cyrchwyd November 13, 2012.
- ↑ Ibbotson, Heather. City Has Lost Many Historic Buildings Archifwyd November 7, 2012, yn y Peiriant Wayback., Brantford Expositor, April 5, 2012.
- ↑ Murphy, George Joseph (1993). A History of Canadian Accounting Thought and Practice. Taylor & Francis. t. 82. ISBN 978-0-8153-1248-2.
- ↑ 15.0 15.1 15.2 Rens & Roth 2001.
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref>
yn bodoli am grŵp o'r enw "note", ond ni ellir canfod y tag <references group="note"/>