Niwsans preifat

Oddi ar Wicipedia

Un o'r achosion camwedd mwyaf cyffredin sy'n cael ei brofi mewn bywyd arferol bob dydd yw niwsans preifat, lle mae'r diffynnydd yn defnyddio'i dir neu eiddo mewn dull sy'n achosi tarfu'n afresymol ar fwynhad tir neu eiddo'r hawlydd.

Fe'i seilir ar y wireb sic utere tuo ut alienum non laedas ('defnyddiwch eich tir eich hun mewn ffordd nad yw'n gwneud drwg i eiddo eraill'). Mae niwsans preifat yn dibynnu'n helaeth ar synnwyr cyffredin cymdogion i barchu egwyddor 'mae ar bawb eisiau byw', yn ogystal â graddau sylweddol o berthnasedd o ran pryd fydd cwrs ymddygiad arbennig yn golygu niwsans cyfreithadwy - felly ddatganiad enwog Thesiger LJ: what would amount to a nuisance in Belgrave Square would not necessarily be so in Bermondsey (Sturges v Bridgman (1879) 11 Ch.D 852, yn 865).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.