Nia Caron
Gwedd
Nia Caron | |
---|---|
Ganwyd | Hydref 1959 ![]() Tregaron ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | actor ![]() |
Tad | Ogwyn Davies ![]() |
Priod | Geraint Jarman ![]() |
Plant | Mared Jarman, Hanna Jarman ![]() |
Actores deledu o Gymru yw Nia Caron (ganwyd Hydref 1959) sy'n adnabyddus am chwarae rhan y cymeriadau Anita Pierce yn y gyfres sebon Pobol y Cwm a Dilys Parry yn y ffilm Porc Pei a chyfres deledu Porc Peis Bach.
Yn yr 1980au, roedd yn un o actorion craidd y gyfres gomedi poblogaidd Torri Gwynt, ar S4C.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Magwyd Caron yn Nhregaron, Ceredigion, yn ferch i'r artist Ogwyn Davies. Mae'n briod gyda'r cerddor Geraint Jarman ac mae ganddi ddwy ferch, Hanna [2] a Mared.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nadolig 'Pawen' wrth i 'Pws' Dorri Gwynt eto!, S4C; Adalwyd 2015-12-18
- ↑ "Asiantaeth Dalent Sainou - Hanna Jarman". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-29. Cyrchwyd 2015-12-18.
- ↑ "Double pain at losing Dwayne". Liverpool Daily Post. 31 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd 2013-07-07.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Nia Caron ar wefan Internet Movie Database