Neidio i'r cynnwys

Mynydd Yasur

Oddi ar Wicipedia
Mynydd Yasur
Mathllosgfynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Fanwatw Fanwatw
Uwch y môr361 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau19.5333°S 169.4417°E Edit this on Wikidata
Map
Deunyddandesite Edit this on Wikidata

Llosgfynydd ar Ynys Tanna, Fanwatw, yw Mynydd Yasur sydd 361 metr (1,184 tr) uwchben lefel y môr ar yr arfordir ger Bae Sulphur. Mae'r llosgfynydd i'r de-ddwyrain o Fynydd Tukosmera. Mae'r llosgfynydd wedi bod yn ffrwydro'n barhaus am sawl can mlynedd, er bod modd mynd ati'n ddiogel fel arfer. Mae hi fel arfer yn ffrwydro nifer o weithiau mewn amser. 

Yn ôl chwedloniaeth, golau coch y llosgfynydd oedd yr hyn a ddenodd Capten James Cook ar ei daith cyntaf o Ewrop i'r ynys yn 1774. Heddiw, mae'r mynydd yn ardal sanctaidd ar gyfer cwlt John Frum. 

Cyfyngiadau o ran mynediad 

[golygu | golygu cod]

Mae'n hawdd mynd at y llosgfynydd byw, ac mae'n denu nifer o ymwelwyr. Mae Llywodraeth Vanuatu yn monitro gweithgarwch y llosgfynydd er budd y cyhoedd - ymwelwyr a phobl lleol. Arsyllfa Geo-beryglon Vanuatu sy'n gyfrifol am y gwaith hwn o fonitro. 

O ganlyniad i bwysigrwydd y llosgfynydd i ddiwydiant twristiaeth Tanna, mae'r llywodraeth leol wedi creu lefelau newydd i rwystro pobl rhag cael mynediad i'r llosgfynydd. Mae'r lefelau hyn yn amrywio rhwng 0 a 4 ac maent fel a ganlyn: 

  • Lefel 0 - Gweithgarwch isel, caniatâd i fynd at y crater 
  • Lefel 1 - Gweithgarwch normal, caniatâd i fynd at y crater
  • Lefel 2 - Gweithgarwch canolog i uchel, gall ddarnau o lafa ddisgyn a glanio y tu hwnt i ymyl y crater, nid oes caniatâd i fynd at y crater
  • Lefel 3 - Gweithgarwch difrifol gyda ffrwydradau mawr, darnau o lafa yn hedfan cannoedd o fetrau y tu allan i'r crater, ac mae llawer o fwg a lludw. Mae mynediad i'r crater ar gau 
  • Lefel 4 - Ffrwydriad mawr sy'n effeithio ar ardaloedd mawr o amgylch y llosgfynydd a rhannau eraill o Tanna o bosibl (ynysoedd cyfagos hyd yn oed). Nid oes hawl mynd i'r llosgfynydd o gwbl.

Cyfeiriadau 

[golygu | golygu cod]