Mynydd Ruapehu
Math | llosgfynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Tongariro National Park |
Sir | Ruapehu District, Taupō District |
Gwlad | Seland Newydd |
Uwch y môr | 2,797 metr |
Cyfesurynnau | 39.2817°S 175.5686°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 2,797 metr |
Rhiant gopa | Aoraki |
Cadwyn fynydd | North Island Volcanic Plateau |
Mae Mynydd Ruapehu yn llosgfynydd byw, 2797 medr o uchder, y pwynt uchaf ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd. Roedd ei darddiad mawr diweddarach ym 1996 ac ei lahar diweddarach yn 2008.
Mae'r llosgfynydd yn tua 200,000 blwydd oed ac mae llyn tu mewn i'r ceudwll. Weithiau mae tarddiadau'n gwagu'r llyn, yn creu lahar, llif mawr o lafa; weithiau mae daeargryn o dan y mynydd yn trosglwyddo dŵr tanddaearol i'r llyn, yn codi ei lefel. Digwyddodd hyn yn Hydref 2006 ac eto ar 13 Gorffennaf 2009. Mae tymheredd y dŵr yn newid o dro i dro[1]. Roedd yn gyfres o darddiadau rhwng 10,000 a 22,600 o flynyddoedd yn ôl. Roedd yn darddiad ar Noswyl Nadolig, 1953, yn creu lahar a dinistriodd pont reilffordd tra oedd trên o Wellington i Auckland yn croesi. Bu farw 151 o bobl.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]