Denali

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Mynydd McKinley)
Jump to navigation Jump to search
Mynydd McKinley
Denali Mt McKinley.jpg
Math Mynydd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl William McKinley Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Denali National Park and Preserve Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynol Seven Summits Edit this on Wikidata
Lleoliad Denali National Park and Preserve Edit this on Wikidata
Sir Denali Borough Edit this on Wikidata
Gwlad Baner UDA UDA
Uwch y môr 6,190 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 63.0694°N 151.0072°W Edit this on Wikidata
Amlygrwydd 6,140 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Alaska Range Edit this on Wikidata

Mynydd McKinley (Saesneg: Mount McKinley), hefyd Denali, yw copa uchaf yr Unol Daleithiau a chopa uchaf Gogledd America. Saif yn Alaska. Ceir tywydd anarferol o oer ar y mynydd, ac mae pum rhewlif sylweddol ar ei lethrau. Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Denali o amgylch y mynydd yn 1980.

Hawliodd y fforiwr Frederick Cook ei fod wedi dringo'r mynydd yn 1906, ond profwyd yn ddiweddarach nad oedd wedi cyrraedd y copa. Yn 1910, dringwyd y mynydd gan bedwar o ddynion lleol, Tom Lloyd, Peter Anderson, Billy Taylor a Charles McGonagall. Cyhaeddasant y Copa Gogleddol, yr isaf o ddau gopa'r mynydd. Cyrhaeddwyd y copa uchaf yn 1913 gan Walter Harper.