Mynydd Barker
Gwedd
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 13,842, 18,330, 21,554 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Awstralia |
Uwch y môr | 322 metr |
Yn ffinio gyda | Nairne, Blakiston, Bugle Ranges, Wistow, Echunga, Mount Barker Springs, Mount Barker Summit, Paechtown, Hahndorf, Totness, Littlehampton |
Cyfesurynnau | 35.0667°S 138.85°E |
Cod post | 5251 |
Mae Mynydd Barker yn dref yn Ne Awstralia, 33 cilomedr o Adelaide ym Mryniau Adelaide. Poblogaeth y dref yw 14,452.[1]
Enwyd y dref ar ôl bryn cyfagos a enwyd ar ôl Capten Collet Barker[2], fforiwr ac aelod o'r fyddin Brydeinig.
Gwerthwyd tir da amaethyddol yn yr ardal gan Lywodraeth De Awstralia yn 1838[3] ac adeiladwyd melin ŷd i brosesu cynnyrch yr ardal.
Adeiladwyd rheilffordd o Gyffordd Mynydd Barker i Fynydd Barker ac agorwyd gorsaf reilffordd Mynydd Barker ar 27 Tachwedd 1883. Estynnwyd y lein i Strathalbyn ar 15 Medi 1884, ac yn y pen draw i Goolwa a Victor Harbor. Caewyd y lein ym 1989, ond erbyn hyn mae Rheilffordd dreftadaeth Steamranger yn cynnal gwasanaethau stêm ar y lein.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfrifiad 2011: Mynydd Barker Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback 16 Chwefror 2014.
- ↑ Gwefan bryniau adelaide
- ↑ Gwefan rootsweb
- ↑ Gwefan Stemranger