Mynfer ach Brynach

Oddi ar Wicipedia
Mynfer ach Brynach
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Santes o'r 6g oedd Mynfer.

Ganwyd Mynfer yng Nghymru, efallai ym Mynwar ger Arberth. Roedd hi yn ferch i Brynach a Cymorth ac yn chwaer i Mabyn, Mwynen (Morwenna) ac Endelyn (Endellion) a felly yn or-wyres i Brychan Brycheiniog. Aeth i Gernyw gyda'i theulu pan yn ifanc iawn.[1]

Mynfer a'r diafol[golygu | golygu cod]

Dwedir fod y diafol wedi ceisio hudoli Mynfer tra roedd hi yn cribo ei gwallt wrth ymyl ffynnon. Taflodd Mynfer ei chrib ato a diflanodd y diafol i lawr twll a elwir "Lundy Hole"[1]

Cysegriadau[golygu | golygu cod]

Rhoddodd Mynfer ei henw i bentref Sant Minver a cysegrwyd eglwys a ffynnon iddi yn Tredesick, ger Padstow.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Spencer, R. 1991, Saints of Wales and the West Country, Llannerch