Mwyafrifyddiaeth

Oddi ar Wicipedia

Athrawiaeth wleidyddol yw mwyafrifyddiaeth[1] sy'n dal taw llywodraeth y mwyafrif a ddylai bod yn drech na'r lleiafrif wrth wneud penderfyniadau yn y broses ddemocrataidd. Gall y term hwn hefyd gyfeirio at ffurf o lywodraeth ddemocrataidd sydd fel rheol yn rhoi grym gwleidyddol i'r mwyafrif.[2]

Hanes y cysyniad[golygu | golygu cod]

O Roeg yr Henfyd hyd at y 18g, roedd athronwyr a gwleidyddion Ewrop yn credu bod trwch y boblogaeth yn rhy anwybodus i lywodraethu. Rhybuddiodd nifer o Sefydlwyr yr Unol Daleithiau, gan gynnwys James Madison, yn erbyn rhoi gormod o rym i'r mwyafrif. Buont hefyd yn tybio byddai'r mwyafrif yn gorthrymu lleiafrifoedd os rhoddir iddynt y gallu i wneud hynny, yr hyn a elwir "gormes dan y mwyafrif" gan Alexis de Tocqueville. Roedd y fath sefyllfa hefyd yn bryder i John Stuart Mill yn y 19g.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, "majoritarianism".
  2. Arend Lijphart, "Majoritarianism" yn Encyclopedia of Democratic Thought, golygwyd gan Paul Barry Clarke a Joe Foweraker (Llundain: Routledge, 2001), t. 526.
  3. (Saesneg) Majoritarianism (government). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Mai 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • E. Spitz, Majority Rule (Chatham, New Jersey: Chatham House, 1984).