Mosg Umar (Jeriwsalem)

Oddi ar Wicipedia
Mosg Umar
Enghraifft o'r canlynolmosg Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Dechrau/Sefydlu1193 Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolمسجد عمر Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina, Israel Edit this on Wikidata
RhanbarthJeriwsalem Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Mosg Umar (Arabeg: مسجد عمر بن الخطاب‎) yn fosg Ayyubidaidd, yn Jeriwsalem, gyferbyn â iard deheuol Eglwys y Cysegr Sanctaidd yn ardal Muristan yn y Chwarter Cristnogol.

Mosg (dwyreiniol) cyntaf Umar[golygu | golygu cod]

Yn ôl naratifau a ysgrifennwyd yn dilynl Gwarchae Jerwsalem yn 637 gan fyddin Mwslimaidd Rashidun o dan orchymyn Abu Ubaidah ibn al-Jarrah, gwrthododd Patriarch Sophronius ildio ac eithrio i’r Caliph Umar (579-644) ei hun. Teithiodd Umar i Jerwsalem a derbyn yr ildiad. Yna ymwelodd ag Eglwys yr Atgyfodiad (a elwir heddiw yn Eglwys y Cysegr Sanctaidd ) lle gwahoddodd Sophronius ef i weddïo y tu mewn i'r eglwys, ond gwrthododd Omar er mwyn peidio â gosod cynsail a thrwy hynny beryglu statws yr eglwys fel safle Cristnogol. Yn hytrach gweddïodd y tu allan, ar y grisiau i'r dwyrain o'r eglwys.[1] Yn ddiweddarach, adeiladwyd Mosg cyntaf Umar ar y safle hwnnw, fel y tytir gan garreg gydag arysgrif Kufig a ddarganfuwyd ym 1897 yn ardal atriwm dwyreiniol neu allanol Eglwys yr Atgyfodiad Cystennin I (4g), gan ddiffinio'r ardal hon fel mosg.[1]

Mosg (deheuol) presennol Umar[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd Mosg cyfredol Umar yn ei siâp presennol gan y Swltan Ayyubidaidd Al-Afdal ibn Salah ad-Din ym 1193 i gofio gweddi’r caliph Umar.[2] Mae'r mosg presennol wedi'i leoli mewn safle gwahanol i'r un lle credir i Omar weddïo a lle lleolwyd y mosg cynharach, gan ei fod yn sefyll i'r de o'r eglwys yn hytrach nag i'r dwyrain ohoni. Gwnaed hyn mae'n debyg gan fod y fynedfa i Eglwys y Cysegr Sanctaidd wedi symud o'r dwyrain i'r de o'r eglwys oherwydd digwyddiadau dinistriol dro ar ôl tro a effeithiodd ar y Cysegr Sanctaidd yn ystod yr 11g a'r 12g.[1]

Y ddau fosg bob ochr i'r Cysegr Sanctaidd[golygu | golygu cod]

Mae gan Fosg Al-Khanqah al-Salahiyya, sydd wedi'i leoli ar ochr arall (ochr ogleddol) Eglwys y Cysegr Sanctaidd, feindwr bron yn union yr un fath,[2] ac a godwyd ym 1418.[3] Yn amlwg, cynlluniwyd y ddau fel pâr, ac mae'n ddiddorol sylwi y byddai llinell sy'n cysylltu'r ddau feindwr yn croestorri drws Feddrod Iesu y tu mewn i'r eglwys, tra bod y meindyrau yn gyfochrog â'r drws hwnnw[3] a'u topiau'n cyrraedd yr un drychiad yn union, er gwaethaf dechrau ar wahanol lefelau ar y ddaear.[2]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Krüger, Jürgen (2000). Die Grabeskirche zu Jerusalem: Geschichte, Gestalt, Bedeutung [The Church of the Holy Sepulchre in Jerusalem: History, Form, Importance] (yn Almaeneg). Regensburg: Schnell und Steiner. tt. 72–73. ISBN 3-7954-1273-0. Cyrchwyd 29 May 2018.
  2. 2.0 2.1 2.2 Murphy-O'Connor, Jerome (2008). Two Mosques. Oxford Archaeological Guides. Oxford: Oxford University Press. tt. 62–63. ISBN 978-0-19-923666-4. Cyrchwyd 20 June 2016.
  3. 3.0 3.1 El Khanqah-Moschee in Jerusalem (German text and pictures at theologische-links.de)

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Busse, Heribert, Die 'Umar-Moschee im östlichen Atrium der Grabeskirche (lit. "Mosg 'Umar yn atriwm dwyreiniol Eglwys y Cysegr Sanctaidd"), Zeitschrift des deutschen Palästina-Vereins, 109 (1993), tt. 73–82.