Mosg Al-Hamadiyya
Gwedd
| Enghraifft o: | mosg |
|---|---|
| Dyddiad | 15 g |
| Gwlad | |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
| Rhanbarth | al-Khader |
| Dynodwyr | |
Mosg Al-Hamadiyya (Arabeg: مسجد الحمادية; Masjid al-Hamadiyya) yw'r mosg mwyaf yn nhref Palesteinaidd al-Khader, i'r gorllewin o Fethlehem ac mae'n gwasanaethu mwyafrif trigolion y dref. Adeiladwyd y mosg ar ddechrau'r 15g ac fe'i adferwyd gan drigolion y dref yn y 1990au.[1]
Yn ôl Canolfan Gyfryngau Ryngwladol y Dwyrain Canol, yn 2008, torrodd grŵp o ymsefydlwyr o Efrata ac El’azar , Israel i fewn i'r mosg a'i rhoi ar dân, gan ddefnyddio cychod gwenyn wedi’u dwyn fel tanwydd. Gofynnodd imam y mosg ac arweinyddiaeth Fwslimaidd leol am gymorth gan Awdurdod Cenedlaethol Palestina i helpu i ailadeiladu'r mosg ac i amddiffyn al-Khader rhag ymosodiadau yn y dyfodol.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Mosg Omar (Bethlehem)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Bannoura, Saed (2 Ionawr 2008). "Mosque near Bethlehem burned down by Israeli settlers". International Middle East Media Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mehefin 2008. Cyrchwyd 18 Mawrth 2019.
