Mortagne-sur-Gironde

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mortagne-sur-Gironde
Mortagne.jpg
Mortagne-sur-Gironde (Charente Maritime).svg
Math cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Moryd Gironde Edit this on Wikidata
Poblogaeth 915 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir canton of Cozes, Charente-Maritime, arrondissement of Saintes Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd 18.87 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Boutenac-Touvent, Brie-sous-Mortagne, Chenac-Saint-Seurin-d'Uzet, Floirac, Virollet Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 45.4828°N 0.785°W Edit this on Wikidata
Cod post 17120 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Mortagne-sur-Gironde Edit this on Wikidata
Camlas Mortagne o'r awyr
Erthygl am y dref yn Charente-Maritime yw hon. Gweler hefyd Mortagne (gwahaniaethu).

Tref a chymuned yn département Charente-Maritime, rhanbarth Poitou-Charentes, gorllewin Ffrainc, yw Mortagne-sur-Gironde (enw canoloesol, Mortagne-sur-mer, weithiau Mortagne yn unig). Mae ganddi boblogaeth o 967 (1999).

Gorwedd y dref hanesyddol ar lan ddwyreiniol Moryd Gironde, ger Royan. Mae'n ganolfan twristiaeth gyda phorthladd a marina ar gyfer 200 o gychod. Ceir cychod pysgota yno hefyd. Mae gweddillion yr hen gastell yn gorwedd yn y dref uchaf, sydd wedi tyfu yn ei furiau ac o'i gwmpas.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir cell meudwy fonolithig wedi ei chloddio mewn clogwyn sy'n dyddio o'r 2ail ganrif OC. Fe'i cysylltir â Sant Martial. Ceir hefyd olion tybiedig fila fu'n perthyn i Sant Ausone a nifer o safleoedd eraill o'r cyfnod Rhufeinig.

Yn 1407 creuwyd tywysogaeth fechan Mortagne, a oroesodd hyd y flwyddyn 1789. Un o'i dywysogion enwocaf oedd Cardinal Richelieu. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr, bu Owain Lawgoch yn gwarchae'r dref, oedd yn nwylo'r Saeson. Cafodd ei lofruddio yno gan asiant yn nhal brenin Lloegr. Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Mortagne yn 2003.

Bu farw Agrippa d'Aubigné ym Mortagne yn 1630. Dechreuwyd creu'r harbwr presennol yn y 18g. Bu'n borthladd prysur hyd at 1940.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]