Moryd Gironde
| Math | aber, Natura 2000 site |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cefnfor yr Iwerydd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 45.5897°N 1.0492°W |
| Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
| Llednentydd | Afon Dordogne, Jalle de Tiquetorte, Rivau de Chenaumoine, Riveau de Boube, Taillon, Juliat, Afon Garonne |
| Hyd | 75 cilometr |
| Arllwysiad | 1,000 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |

- Gweler hefyd Gironde.
Moryd neu aber estynedig yn région Nouvelle-Aquitaine, ne-orllewin Ffrainc, yw Moryd Gironde (Ffrangeg Gironde; Ocsitaneg Gironda; Poitevin-saintongeais Ghironde). Mae'n dechrau ychydig bellter i'r gogledd o ddinas Bordeaux yn y fan lle mae afonydd Dordogne a Garonne yn ymuno â'i gilydd, cyn iddi ymestyn 75 km (47 milltir) tuag at Cefnfor yr Iwerydd yng Ngwlff Gasgwyn. Mae ei dyfroedd yn orchuddio tua 635 km2 (245 milltir sgwâr). Dyma'r aber mwyaf yng ngorllewin Ewrop.
Mae'n rhoi ei enw i département Gironde.
Mae gan y foryd hanes cyfoethog oherwydd ei bwysigrwydd fel angorfa a chyfrwng masnach forwrol. Y porthladd pwysicaf ar y Gironde yw Bordeaux ond ceir sawl porthladd llai ar ei glannau hefyd, e.e. Mortagne-sur-Gironde. Mae'n dal i fod yn llwybr arforol pwysig heddiw a gwelir nifer o longau mawr yn ei defnyddio'n rheolaidd.
