Morini

Oddi ar Wicipedia
Llwythau Celtaidd Gâl yn y ganrif 1af CC

Llwyth Belgaidd yn byw yng ngogledd-ddwyrain Gâl oedd y Morini. Un o'u dinasoedd oedd Bononia, Boulogne-sur-Mer heddiw. Eu civitas yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Terouanne (Terwaan).

Concrodd Iŵl Cesar ran o'u tiriogaethau o amgylch Calais yn ystod ei ymgyrchoedd yng Ngâl. Concrwyd y gweddill dan yr ymerawdwr Augustus rhwng 33 a 23 CC, a daeth yn rhan o dalaith Gallia Belgica.

Yn ystod gwrthryfel Vercingetorix, gyrrodd y Morini fyddin o tua 5,000 o wŷr i gynorthwyo'r ymgais i godi'r gwarchae Rhufeinig ar Alesia.