Alesia
| Math | Oppidum, Vicus, safle archaeolegol |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Alise-Sainte-Reine |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 47.5392°N 4.5006°E |
![]() | |
| Statws treftadaeth | monument historique classé, monument historique classé, monument historique classé, monument historique classé, heneb hanesyddol cofrestredig |
| Manylion | |

Roedd Alesia yn oppidum neu dref gaerog yn Ngâl ac yn brifddinas llwyth y Mandubii, llwyth oedd mewn cynghrair gyda'r Aedui. Yn ddiweddarach bu'n dref Rufeinig.
Ers dyddiau yr ymerawdwr Napoléon III mae cloddio archaeolegol wedi bod yn Alise-Sainte-Reine yn Côte-d'Or ger Dijon yn y gred mai yma yr oedd yr Alesia hanesyddol. Yn ddiweddar darganfuwyd arysgrif IN ALISIIA ar y safle, a brofodd fod y gred yn gywir.

Oddeutu 52 CC, yn Alesia yr ymladdwyd Brwydr Alesia, y frwydr dyngedfennol pan orchfygwyd Vercingetorix gan Iŵl Cesar. Gyda'r frwydr yma daeth Cesar i bob pwrpas yn feistr Gâl gyfan. Ceir manylion y frwydr yn llyfr Cesar De Bello Gallico (Llyfr 7, 68-69). Roedd Vercingetorix a'i lu wedi encilio i Alesia, gan gredu y byddent yn ddiogel yno, ond gosododd Cesar warchae ar y dref. Cododd y Galiaid eraill fyddin fawr i geisio codi'r gwarchae, ac ymatebodd Cesar trwy godi dau gylch o amddiffynfeydd, un i atal amddiffynwyr Alesia rhag dianc ac un arall allanol i amddiffyn yn erbyn y fyddin hon. Mae cloddio ac archwilio lluniau wedi eu tynnu o awyren o Alise-Sainte-Reine wedi cadarnhau hanes Cesar.
