Morgan Jones (gramadegydd)

Oddi ar Wicipedia
Morgan Jones
Ganwyd1913 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 2011 Edit this on Wikidata

Athro a gramadegydd oedd Morgan D. Jones (191313 Gorffennaf 2011).

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Y Porth, Cwm Rhondda. Enillodd radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ble bu'n ddisgybl i Griffith John Williams. Enillodd hefyd gradd uwch am draethawd ar waith Daniel Silvan Evans.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl graddio, aeth i weithio yn Ysgol Ramadeg Maesteg. Yn bu'n gweithio ar hyd ei oes ac eithrio cyfnod a dreuliodd yng Ngogledd Affrica a'r Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Y Cywiriadur Cymraeg (1965)
  • Cerddi'r Trai (casgliad o emynau, 1976)
  • Termau'r Iaith a Llên (1972)
  • Cymwynaswyr y Gymraeg (1978)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. James, Allan (Hydref 2011). Morgan D. Jones (1913-2011), Rhifyn 585. Barn