Neidio i'r cynnwys

Mission: Impossible - Ghost Protocol

Oddi ar Wicipedia
Mission: Impossible - Ghost Protocol

Poster y ffilm
Cyfarwyddwr Brad Bird
Cynhyrchydd Tom Cruise
J. J. Abrams
Bryan Burk
Ysgrifennwr Ysgrifennwyd gan:
Josh Appelbaum
André Nemec
Seiliedig ar:
Mission: Impossible
gan Bruce Geller
Serennu Tom Cruise
Jeremy Renner
Simon Pegg
Paula Patton
Cerddoriaeth Michael Giacchino
Sinematograffeg Robert Elswit
Golygydd Paul Hirsch
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Bad Robot Production
TC Productions
FilmWorks
Skydance Productions
Stillking Productions
Paramount Pictures
Dyddiad rhyddhau 7 Rhagfyr, 2011 (Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dubai)
21 Rhagfyr, 2011 (Yr Unol Daleithiau
Amser rhedeg 133 munud[1]
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Mae Mission: Impossible 4: Ghost Protocol yn ffilm ysbïo acsiwn Americanaidd 2010 a'r bedwaredd yng nghyfres y ffilmiau Mission: Impossible. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Brad Bird, ei ffilm acsiwn fyw gyntaf.[2] Dychwela Tom Cruise at ei rôl fel yr asiant IMF Ethan Hunt, gyda Jeremy Renner, Simon Pegg, a Paula Patton yn ei dîm cefnogol. Ysgrifennwyd Ghost Protocol gan André Nemec a Josh Appelbaum, a fe'i chynhyrchwyd gan Cruise, J. J. Abrams (cyfarwyddywr y drydedd ffilm) a Bryan Burk. Dychwelodd olygydd Paul Hirsch a goruchwyliwr effeithiau gweledol y ffilm gyntaf John Knoll. Hon yw'r ffilm gyntaf Mission: Impossible a ffilmir yn rhannol gyda chamerâu IMAX. Fe'i rhyddhawyd yng Ngogledd America gan Paramount Pictures ar 16 Rhagfyr, 2011, gyda llwyddiant beirniadol a masnachol. Ghost Protocol yw'r ffilm yn y gyfres sydd wedi ennill y mwyaf o arian,[3] a'r ffilm sydd wedi ennill y mwyaf o arian sy'n serennu Cruise.[4][5][6]

Yn ogystal â'r bedwaredd ffilm hon, cynhwysa'r gyfres y ffilmiau canlynol: Mission: Impossible (1995), Mission: Impossible II (1997), Mission: Impossible III (2006), Mission: Impossible – Rogue Nation (2015), a Mission: Impossible - Fallout (2017).

  • Tom Cruise fel Ethan Hunt, arweinydd y tîm IMF.
  • Jeremy Renner fel William Brandt, dadnsoddwr IMF a chyn-asiant IMF.
  • Simon Pegg fel Benjamín "Benji" Dunn, asiant technegol IMF ar dîm Hunt.
  • Paula Patton fel Jane Carter, asiant IMF ac aelod tîm Hunt.
  • Michael Nyqvist fel Kurt Hendricks, hefyd a adnabyddir fel "Cobalt", strategwr niwclear Swedaidd.
  • Vladimir Mashkov fel Anatoly Sidorov, asiant gwybodaeth Rwsiaidd sy'n dilyn Hunt.
  • Samuli Edelmann fel Marius Wistrom, cymhorthiad Hendricks.[7]
  • Ivan Shvedoff fel Leonid Lisenker, arebnigwr côd niwclear.
  • Anil Kapoor fel Brij Nath, teicŵn y cyfryngau Indiaidd.
  • Léa Seydoux fel Sabine Moreau, asasin Ffrengig.
  • Josh Holloway fel Trevor Hanaway, asiant IMF.
  • Pavel Kříž fel Marek Stefanski.
  • Miraj Grbić fel Bogdan, carcharor Rwsiaidd a rhyddhawyd gan Hunt.
  • Ilia Volok fel y Fog, gwerthwr arfau sydd hefyd yn gefnder i Bogdan.
  • Tom Wilkinson (di-gredyd) fel yr Ysgrifennydd yr IMF.[8]
  • Ving Rhames (cameo di-gredyd) fel Luther Stickell, cydweithiwr Hunt.[9]
  • Michelle Monaghan (cameo di-gredyd) fel Julia Meade-Hunt, gwraig Hunt.[10]

Acolâdau

[golygu | golygu cod]
Gwobr Categori Derbynyddion a dewisddynion Canlyniad
Cynghrair Newyddiadurwyr Ffilm y Merched[11][12] Gwobr 'Kick Ass' ar gyfer y Seren Acsiwn Fenywaidd Orau Paula Patton
Gwobrau'r Ril Aur[13] Golygu Sain Gorau: Effeithiau Sain Gorau mewn Prif Ffilm Mission: Impossible – Ghost Protocol
Gwobrau Dewis y Plant Hoff 'Buttkicker' Tom Cruise
Gwobrau Ffilmiau MTV[14] Ymladd Gorau Tom Cruise yn erbyn Michael Nyqvist
Perfformiad 'Gut-Wrenching' Gorau Tom Cruise
Gwobrau Saturn[15] Ffilm Acsiwn neu Antur Orau Mission: Impossible – Ghost Protocol
Cyfarwyddwr Gorau Brad Bird
Actor Gorau Tom Cruise
Actores Gefnogol Orau Paula Patton
Cerddoriaeth Orau Michael Giacchino
Golygu Gorau Paul Hirsch
Gwobrau Dewis y Plant yn eu harddegau[16] Ffilm Ddewis: Acsiwn Mission Impossible – Ghost Protocol
Actor Ffilm Ddewis: Acsiwn Tom Cruise
Actores Ffilm Ddewis: Acsiwn Paula Patton
Gwobrau'r Gymdeithas Effeithiau Gweledol Modelau Rhagorol mewn Prif Ffilm John Goodson, Paul Francis Russell a Victor Schutz
Gwobrau Styntiau'r Byd Cydgysylltwr Styntiau Gorau a/neu Gyfarwyddwr yr 2ail Uned Pavel Cajzl, Dan Bradley, Russell Solberg, Gregg Smrz ac Owen Walstrom

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "MISSION: IMPOSSIBLE - GHOST PROTOCOL (12A)". British Board of Film Classification. December 7, 2011. Cyrchwyd August 2, 2015.
  2. Peter Sciretta (May 7, 2010). "Brad Bird Confirmed for Mission: Impossible 4". /Film. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-11. Cyrchwyd September 28, 2010.
  3. "Box office collections of "Mission: Impossible" films". Cyrchwyd March 3, 2013.
  4. "'Mission: Impossible 4' Becomes Tom Cruise's Top-Grossing Film". Cyrchwyd March 3, 2013.
  5. "Tom Cruise's Top 10 Highest Grossing Films Of All Time". Cyrchwyd March 3, 2013.
  6. "Around-the-World Roundup: 'M:I-4' Passes $600 Million Worldwide". Cyrchwyd March 3, 2013.
  7. "Simon Pegg Interview for 'Mission: Impossible – Ghost Protocol'". FlicksAndBits.com. December 8, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd December 15, 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. Dargis, Manohla (December 15, 2011). "Movie Review: Mission: Impossible — Ghost Protocol: Falling Off Skyscrapers Sometimes Hurts a Bit". The New York Times. Cyrchwyd May 10, 2015.
  9. Lin, Kristian (December 14, 2011). "Film Shorts > Opening: Mission: Impossible — Ghost Protocol". Fort Worth Weekly. Texas. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 15, 2012. Cyrchwyd May 10, 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. Eisenberg, : Eric (September 6, 2012). "Chris Evans And Michelle Monaghan Sign On For Anti-Romantic Comedy A Many Splintered Thing". CinemaBlend.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 23, 2012. Monaghan, who last appeared in an uncredited role in Mission: Impossible - Ghost Protocol.... Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  11. "Alliance of Women Film Journalists Awards 2011". Movie City News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-16. Cyrchwyd 2016-01-03.
  12. "Alliance of Women Film Journalists Awards 2011 winners". AWFJ.org.
  13. "2011 Golden Reel Awards nominations". The Award Circuit. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-24. Cyrchwyd 2016-01-03.
  14. Ford, Rachel (June 3, 2012). "MTV Movie Awards: Complete Winners List". Hollywood Reporter. Prometheus Global Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-04. Cyrchwyd June 4, 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  15. "RISE OF THE PLANET OF THE APES and SUPER 8 lead Saturn Awards with 3 awards each". saturnawards.org. July 26, 2012. Cyrchwyd July 27, 2012.
  16. "First Wave of "Teen Choice 2012" Nominees Announced" (PDF). Teen Choice Awards. May 18, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-05-18. Cyrchwyd May 18, 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)