Mill Hill, Shoreham

Oddi ar Wicipedia
Mill Hill, Shoreham
Mathgwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.853°N 0.281°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ 211073 Edit this on Wikidata
Map
Y Ganrhi goch, (Centaurium erythraea.) Mae amrywiaeth eang o rywogaethau blodau'n tyfu'n y warchodfa natur, yn enwedig y rhai hynny sydd yn hoff o briddoedd calchog.

Gwarchodfa Natur Leol o 13.5 hectar (33 erw) ar lethrau'r Twyni Deheuol yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Mill Hill. Saif ar gyrion gogleddol tref Shoreham-by-Sea. Mae'n eiddo i Gyngor Dosbarth Adur a Worthing ac yn cael ei reoli gan y cyngor a Chyd-bwyllgor South Downs.[1][2]

Mae gan y safle hwn laswelltir calch, prysgwydd a choetir eilaidd. Mae'n un o'r ardaloedd gorau yn Sussex ar gyfer glöynnod byw, gyda 29 o rywogaethau wedi'u cofnodi, gan gynnwys y Glesyn Adonis . Mae mwy na 160 o rywogaethau o blanhigion blodeuol wedi’u cofnodi, fel y ffacbysen bedol (Hippocrepis comosa) [1], pig yr ran y weirglodd (Geranium pratense), y ganhri goch (Centaurium erythraea), y bengaled fawr (Centaurea scabiosa), ac ysgallen ddigoes (Cirsium acaulon).

Mae mynediad o'r ffordd o'r enw Mill Hill.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Mill Hill LNR, Natural England;adalwyd 9 Gorffennaf 2023
  2. Map, Natural England; adalwyd 9 Gorffennaf 2023