Mikao Usui
Mikao Usui | |
---|---|
Ganwyd | 15 Awst 1865 Gifu |
Bu farw | 9 Mawrth 1926 o strôc Fukuyama |
Dinasyddiaeth | Japan |
Galwedigaeth | Reiki practitioner |
Sylfaenydd Reiki ydy Mikao Usui (臼井甕男, 15 Awst 1865 – 9 Mawrth 1926). Sefydlodd Usui gymdeithas yn Japan o'r enw Usui Reiki Ryōhō Gakkai (臼井靈氣療法學會 ym Mandarin Traddodiadol, sy'n golygu 'Cymdeithas Therapi Egni Ysbrydol Usui'). Roedd ganddo dros 2,000 myfyriwr ar un pryd, a hyfforddodd 21 athro erbyn ei farwolaeth.
Pum Cysyniad Usui
[golygu | golygu cod]Mae cymyn Usui yn dweud y dylai person weithio ar yr hyn y gellir ei wella a derbyn yr hyn na ellir ei newid. Dyma'r rysáit am fywyd hapus yn ei ôl ef. Ymddangosir hanfod y ddysgeidiaeth hon gyda'r pum cysyniad neu bum egwyddor:[1]
“ | Y gelf gyfrinachol o wahodd hapusrwydd, Y feddyginiaeth wyrthiol ar gyfer pob un afiechyd. O leiaf am heddiw:
Bob bore a noswaith, ymunwch eich dwylo â'i gilydd mewn myfyrdod a gweddïo gyda'ch calon. Er mwyn gwella'r meddwl a'r corff. Y sylfaenydd, |
” |
Nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Axel Ebert gyda chymorth Ando Takashi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-27. Cyrchwyd 2010-03-24.