Mihangel Jones
Gwedd
Mihangel Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1940 Ceredigion |
Bu farw | 22 Mawrth 2018 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd |
Arlunydd o Gymro oedd Mihangel Jones (1940 – 22 Mawrth 2018).
Fe'i ganwyd ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Drefaldwyn a magwyd ef ar fferm. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Loegr, ac astudiodd yng Ngholeg Celf Twickenham am 6 mlynedd.[1]
Rhwng 1961 a 1982 gweithiodd fel darlunydd llawrydd. Datblygodd enw da yn rhynwgladol ym maes darlunio llyfrau a cylchgronau, posteri a hysbysfyrddau.[2]
Wedi ymddeol, dychwelodd i Gymru ac aeth ati i adnewyddu hen ffermdy 16G yn Nolgellau i greu cartref a stiwdio ar gyfer ef a'i gathod. Bu farw ym Mawrth 2018 wedi cyfnod hir o waeledd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Marw Mihangel Jones, arlunydd creadigol a gwahanol , Golwg360, 4 Ebrill 2018.
- ↑ MIHANGEL JONES RCA 1940 - 2018. welshart.net. Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.
- ↑ Facebook - Ffin y Parc Gallery. Galeri Ffin y Parc (24 Mawrth 2018).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2018-04-03 yn y Peiriant Wayback