Metro Midland

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd a thramffordd y Jewellery Quarter
Grand Central, Birmingham
Safle tram Handsworth (Heol Booth)
Y terminws yn Wolverhampton
Gorsaf reilffotdd a thramffordd y Hawthorns

Mae Metro Midland yn dramffordd rhwng Birmingham a Wolverhampton. Mae’r tramiau yn rhedeg bob 6-8 munud yn ystod y dydd, a bob 15 munud gyda’r hwyr a dros y penwythnos. Gweithredwr y tramiau yw National Express Midland Metro, ar ran awdurdod lleol y gorllewin canolbarth.[1]

Daw’r rhwydwaith yn ôl i reolaeth Transport for West Midlands ar ddiwedd y cytundeb bresennol gyda National Express. Cynllunir estyniadau a leiniau newydd, a buddsoddir elw yn ôl i’r rhwydwaith.


Bwriedir adeiladu estyniad ar Heol Broad a Ffordd Hagley i Edgbaston, un arall trwy Digbeth i’r dwyrain a Maes Awyr Birmingham, ac un arall o Wednesbury i Brierley Hill. Bydd y cwmni sector cyhoeddus Midland Metro Cyf yn cymryd drosodd ym mis Hydref 2018, ar ddiwedd y cytundeb bresennol. Gobeiithir bod y prosiect HS2 yn rhoi hwb i’r wasanaeth leol. Rhagwelir bod y nifer blynyddol o deithwyr yn codi o 6.5 miliwn i dros 30 miliwn.[2]

Lein Un[golygu | golygu cod]

Agorwyd Lein Un, rhwng Birmingham a Wolverhampton, ar 31 Mai 1999, yn dilyn cwrs y Rheilffordd y Great Western rhwng Gorsaf reilffordd Birmingham (Snow Hill) a Wolverhampton, ond yn mynd ar ffyrdd cyhoeddus ar dau ben y lein. Mae 23 o safleoedd tram, 11 ohonynt ar safleoedd gorsaf reilffordd.Yn wreiddiol, roedd Gorsaf reilffordd Birmingham (Snow Hill) yn derminws, ond estynnwyd y lein hyd at safle tram Grand Central, yn ymyl Gorsaf reilffordd Birmingham (Heol Newydd) yn ystod 2015-16.

Ar ôl gadael Snow Hill at Wolverhampton, mae’r lein yn mynd ochr yn ochr gyda’r rheilffordd Birmingham-Kidderminster-Caerwrangon, ac mae 2 orsaf, Gorsaf reilffordd Jewellery Quarter a Gorsaf reilffordd Y Hawthorns yn gwasanaethu trenau a tramiau.[3] Mae’r tramiau’n gadael cwrs yr hen reilffordd ar ôl Safle tram Priestfield ac yn mynd ar Ffordd Bilston hyd at y terminws, Safle tram Wolverhampton (San Siors), sydd yn agos i’r gorsafoedd bws a reilffordd.

Y camau nesaf[golygu | golygu cod]

Bwriedir adeiladu estyniad i Edgbaston, 2 gilomedr o hyd, yn costio £149 miliwn. Bydd y tramiau’n defnyddio pŵer batri er mwyn osgoi cael gwifrau trydanol yng nghanol y ddinas, yn mynd trwy Sgwâr Fictoria, Circws Paradwys, heibio’r llyfrgell ac ar hyd Heol Broad cyn cyrraedd Ffordd Hangley yn Edgbaston erbyn 2021. Mae hefyd cynllun i adeiladu estyniad o ganol y ddinas trwy Digbeth a Solihull i’r dwyrain a Maes Awyr Birmingham, yn cysylltu gyda rhwydwaith HS2. Bydd ein arallyn gadael Lein un yn Wednesbury ac yn mynd yn rhannol ar hen reilffordd De Swydd Stafford trwy Dudley i Brierley Hill, lle mae ystad manwerthu Merry Hill. Bwriadir creu estyniad arall yn Wolverhampton a wasanaethu’r gorsafoedd bws a rheilffordd, erbyn 2020.[4]

Bydd y cwmni sector cyhoeddus Midland Metro Cyf yn cymryd drosodd ym mis Hydref 2018, ar ddiwedd y cytundeb bresennol. Gobeithir bod y prosiect HS2 yn rhoi hwb i’r wasanaeth leol. Rhagwelir bod y nifer blynyddol o deithwyr yn codi o 6.5 miliwn i dros 30 miliwn.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]