Mesurydd dŵr

Oddi ar Wicipedia

Dyfais a ddefnyddir i fesur cyfaint defnydd ddŵr yw mesurydd dŵr. Mewn llawer o wledydd datblygedig mae mesuryddion dŵr yn cael eu defnyddio mewn adeiladau preswyl a masnachol mewn system cyflenwad dŵr cyhoeddus.

Ceir sawl math o fesurydd dŵr a ddefnyddir yn gyffredin. Mae'r dewis yn seiliedig ar ddulliau mesur llif gwahanol, y math o ddefnyddiwr, y cyfraddau llif gofynnol a'r gofynion ynglŷn â chywirdeb.

Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato