Menter Iaith Sir Caerffili

Oddi ar Wicipedia

Sefydlwyd Menter Iaith Caerffili ym mis Rhagfyr 1999, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ym Mwrdeistref Sirol Caerffili drwy greu cyfleoedd a gwasanaethau i drigolion y sir ddefnyddio’r iaith o fewn eu cymunedau lleol. Mae Menter Sir Caerffili yn Elusen Gofrestredig (1105172) ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy warrant (5096968).[1]

Gwaith[golygu | golygu cod]

  • Cynlluniau Gofal cyn ysgol, ar ôl ysgol, yn ystod y gwyliau a chynlluniau cofleidiol drwy’r Gymraeg.
  • Gweithdai amrywiol i blant yn ystod gwyliau’r ysgol.
  • Cyfleoedd wythnosol, penwythnosol ac yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol i bobl ifanc drwy’r Gymraeg.
  • Gweithgareddau cymdeithasol i Ddysgwyr gan gynnwys boreau coffi, Sadyrnau Siarad a chlybiau darllen.
  • Cyfleoedd Cymdeithasol i Deuluoedd.
  • Gweithdai dysgu anffurfiol wythnosol ac undydd i Oedolion
  • Ffiliffest – Gŵyl Haf Cymraeg
  • Ffair Nadolig blynyddol
  • Cydlynu Fforwm Iaith Sir Caerffili
  • Darparu gwasanaethau cyngor a gwybodaeth iechyd i blant a phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Cefnogi ac annog darparwyr gofal plant i ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Cyswllt Cymraeg ar sawl pwyllgor yn y sector gwirfoddol, preifat a chyhoeddus
  • Rydym yn darparu ein gwasanaethau drwy weithio mewn partneriaeth gyda nifer helaeth o fudiadau Cymraeg Sir Caerffili yn ogystal â phartneriaid di-Gymraeg y Sir gan gynnwys Cyngor B.S. Caerffili, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Meithrin, Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent, Merched y Wawr, CADW, ysgolion a cholegau, busnesau lleol ac eraill.
  • Un o brif bartneriaid Menter Sir Caerffili yw Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor B.S. Caerffili sy’n gyfrifol am ariannu nifer helaeth o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig drwy’r Gymraeg yn y Sir.

Sianeli Youtube[golygu | golygu cod]

Mae gan Menter Caerffili 5 Sianel Youtube sydd efo cynnwys am gwahanol pynciau, megus teganau a gemau fideo

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Amdanom Ni | Menter Caerfilli". www.mentercaerffili.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-08. Cyrchwyd 2020-03-10.