Meloe brevicollis

Oddi ar Wicipedia
Meloe brevicollis
Meloe brevicollis; Medi 2010
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Coleoptera
Teulu: Meloidae
Genws: Meloe
Rhywogaeth: M. brevicollis
Enw deuenwol
Meloe brevicollis
Panzer, 1793

Chwilen olew Ewropeaidd yw Meloe brevicollis a elwir hefyd yn chwilen olew gwddf byr.

Credwyd bod y chwilen wedi diflannu yn y DU ers y 1940au, oherwydd ffermio dwys. Fodd bynnag, yn 2007 darganfuwyd poblogaeth fach yn ne Dyfnaint.[1]

Yn 2010, darganfuwyd 40 chwilod ar bedwar safle ar ynys Coll yn Ynysoedd Heledd. Ni all y chwilen hedfan ac mae’r chwilod ifainc yn barasitig ac yn dibynnu ar wenyn nythu unigol i oroesi, sy’n codi'r cwestiwn o sut y cyrhaeddodd y chwilod yr ynys. Dywedodd Jeanne Robinson, curadur entomoleg yn Amgueddfeydd Glasgow: "Mae’n hawdd iawn aflonyddu’r chwilod yma a'r hyn sydd gan safleoedd Dyfnaint a Coll yn gyffredin yw eu bod wedi bod yn gymharol sefydlog am amser hir .... Rydym yn gobeithio bod yna botensial i wneud rhywfaint o ddadansoddiad genetig i weld o ble y daeth y boblogaeth." Mae cofnodion o'r chwilen yn Iwerddon ac mae'n bosibl bod y boblogaeth wedi'i gwasgaru oddi yno.[2]

Yn 2014 teithiodd staff o RSPB yr Alban a Buglife i Coll i gynnal arolwg helaeth ar gyfer y chwilen. Yn anhygoel fe ddaethon nhw o hyd i dros 150 o chwilod a 2 safle nad oedd yn hysbys o'r blaen ar gyfer y rhywogaeth, sy’n golygu mai Coll yw’r safle pwysicaf ar gyfer y chwilen yn y DU.

Ail-ddarganfuwyd y rhywogaeth yn Sir Benfro, yng Nghymru yn 2020. Nid oedd y chwilen wedi cael ei gofnodi yng Nghymru ers 1944."Beetle re-emerges after 60 years". BBC News. 2007-03-1"Beetle re-emerges after 60 years". BBC News. 2007-03-19.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Beetle re-emerges after 60 years". BBC News. 2007-03-19.
  2. Ross, John (16 Gorffennaf 2010) "Beetle mania as 'extinct' insect found on Scots isle". The Scotsman. Adalwyd 13 Gorffennaf 2010.
  3. buglife.org.uk; adalwyd 26 Awst 2021