Melin Newydd, Bodffordd
Gwedd
Math | melin wynt |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bodffordd |
Sir | Bodffordd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 50.5 metr |
Cyfesurynnau | 53.2947°N 4.4157°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Mae Melin Newydd yn felin wynt ar Ystâd Bodorgan, ger Trefor a Bodffordd ar Ynys Môn.[1][2] Cafodd ei chodi ym 1833, un o'r rhai diwethaf i gael ei chodi ar yr ynys; trawyd hi gan fellten ym 1920 a chafodd ei throi'n dŷ yn 2009. Nodwyd hynny ar raglen deledu "Restoration Man" ar Sianel 4.
Gwyddom iddo gael ei godi'n wreiddiol ym 1833 gan y nodir hynny ar garreg, ger y drws ffrynt, gyda'r blaenlythrennau "OJAFM", sef Owen John Augustus Fuller Meyrick, perchennog Ystâd Bodorgan.
Roedd melin ddŵr gerllaw, ond mae ei olion erbyn hyn wedi diflannu.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anglesey History - Windmills
- ↑ "Anglesey Windmills". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-13. Cyrchwyd 2014-04-30.