Mega
Gwedd
Grwp 'boi band' Cymraeg poblogaidd o'r 1990au oedd Mega. Ffurfiwyd y band gan Emyr Afan ac Avanti yn 1998. Cystadlodd y grŵp yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2000.[1]
Aeth Rhydian ymlaen i gael gyrfa fel canwr a chyflwynydd teledu. Parhaodd Arwel gyda'i yrfa actio yn ogystal a chanu. Bu Marc yn actio'r cymeriad Rhodri ym Mhobol y Cwm yn ogystal â chanu. Mae Marc yn olygydd teledu.[2]
Aelodau
[golygu | golygu cod]- Rhydian Bowen Phillips
- Arwel Wyn Roberts
- Marc Llewelyn
- Trystan Jones
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Dawnsio ar Ochr y Dibyn (1998)
- Mwy Na Mawr (1998, Recordiau A3, A3CD 001)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mega. Curiad (27 Medi 2005). Adalwyd ar 20 Chwefror 2017.
- ↑ Marc Llywelyn. BBC Cymru (24 Mai 2006). Adalwyd ar 20 Chwefror 2017.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Mega - Dawnsio ar Ochr y Dibyn '98 ar YouTube