MediaWici:Uploadtext

Oddi ar Wicipedia
Gwybodaeth uwchlwytho ffeiliau i Wicipedia

1. Nodwch o le ddaw'r ffeil
Darllenwch gynnwys y ddolen berthnasol yma.
2. Cwblhewch y paramedrau yn y blwch "Crynodeb:" (ar ôl yr hafalnodau ("="))
Wedi ichi ddarllen y ddolen berthnasol uchod, llenwch y paramedrau gyda'r wybodaeth dan sylw. Mae'r paramedrau yno yn barod ichi.
  • Disgrifiad: Disgrifiad o'r cynnwys, cefndir (hanesyddol), ac ar gyfer data gwyddonol, dadansoddiad gwyddonol byr o'r ffeil.
  • Ffynhonnell: Defnyddiwch "Gwaith fy hunan" am eich gwaith eich hunan. Fel arall, darparwch y wefan (gyda dolen i'r dudalen sy'n mewnosod y ffeil a dolen uniongyrchol i'r ffeil ei hun), rhif catalog, enw'r sefydliad, cyfeiriad/ffynhonnell llyfr, ayyb.
  • Awdur: Awdur(on) y ddelwedd. Pe na gydnabyddir person unigol, defnyddiwch enw'r sefydliad(au) a ryddhaodd y ffeil (os mai chi yw'r awdur/es, gosodwch eich llofnod gyda ~~~).
  • Dyddiad: Dyddiad creu neu gyhoeddi.
  • Caniatâd (i'w gwblhau os nad chi yw'r awdur/es): Disgrifiad byr o'r hawl i ddefnyddio'r llun a roddwyd gan berchennog yr hawlfraint. Yn achos y parth cyhoeddus, disgrifiwch statws hawlfraint y ffeil. Yn ogystal â hyn, cofiwch gynnwys tag hawlfraint.
  • Fersiynau_eraill (dewisol): Yn cysylltu â disgrifiadau byr o fersiynau eraill o'r un ffeil.
3. Dewiswch drwydded addas o'r gwymplen "Trwyddedu:".
neu defnyddiwch dag hawlfraint yn "Crynodeb:".
Sylwer!
Mae'n rhaid ichi ddarparu'r wybodaeth (y disgrifiad, ffynhonnell, awdur, dyddiad, a'r caniatâd) a'r drwydded gywir o'r gwymplen "Trwyddedu:" isod (hynny yw, gyda'r tag cywir). Os nad ydych yn cwrdd â'r gofynion hyn, dilëir y ffeil cyn gynted ag y bo modd a heb drafodaeth. Drwy uwchlwytho ffeil, rydych yn cytuno i gwrdd â'r amodau hyn ac yn tystio'ch bod yn deall yr hyn sydd ei hangen gwneud arnoch. Os oes angen cymorth arnoch, ymwelwch â Wikipedia:Media copyright questions neu ofyn yn Wicipedia:Y Ddesg Gymorth.

Mae uwchlwytho ffeiliau sydd wedi eu diogelu gyda hawlfraint heb ganiatâd yn erbyn y gyfraith!