Meddylfryd twf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfeiria meddylfryd twf at athroniaeth a gyflwynwyd gan yr Athro Carol Dweck ynglŷn â sut y mae unigolyn yn gallu cynyddu ei ddeallusrwydd personol trwy ei ymddygiad.

Yn ôl yr ysgolhaig Carol Dweck, gellir gosod unigolion ar gontiniwm yn seiliedig ar eu credoau personol ynglyn ag o ble y daw ein gallu. Dywed Dweck y gellir categoreiddio unigolion i un o ddau feddylfryd gwahanol sef "meddylfryd twf" a "meddylfryd sefydlog" (Fixed mindset and growth mindset). Seilir y categoriau hyn ar ymateb yr unigolyn i fethiant. Mae pobl sydd a meddylfryd sefydlog yn gweld methiant fel canlyniad i ddiffyg gallu naturiol, tra bod rheiny sydd a meddylfryd twf yn credu y gall unrhyw un feithrin sgil penodol cyn belled a'u bod yn buddsoddi ymdrech ac amser.

Philosophy template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.