Matthew de Englefield
Matthew de Englefield | |
---|---|
Ganwyd | 1290s |
Bu farw | 25 Ebrill 1357 |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | esgob esgobaethol |
Esgob Bangor ganol y 14g oedd Matthew de Englefield (tua 1290 - 1357). Mae'n bosibl fod 'Mathew de Englefield' i'w uniaethu â Madog ab Iorwerth ap Rhirid o Degeingl.
Tras
[golygu | golygu cod]Os cywir yr uniaethiad hwnnw, sy'n dra thebygol, roedd yn frawd i'r uchelwr Rhotbert ab Iorwerth o Degeingl ac yn perthyn i deulu a olreiniai ei dras yn ôl i Ednywain Bendew II, o linach brenhinoedd Teyrnas Powys.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd Matthew/Madog ei ethol yn Esgob Bangor ar 25 Chwefror 1327 a'i gysegru ar 12 Mehefin 1328. Ni chofnodir ei ymddeoliad na'i farwolaeth, ond cafodd ei olynu yn 1357 gan Thomas Ringstede.
Noddwr i'r beirdd
[golygu | golygu cod]Mae un o dwy gerdd sydd wedi goroesi o waith y bardd Gronw Gyriog yn awdl foliant i un Madog ab Iorwerth o Goedmynydd. Mae'n debygol mai Matthew de Englefield/Madog ab Iorwerth yw'r Madog hwn, ac os felly gellid cynnig ei dyddio i'r blynyddoedd ar ôl 1328. Mae'n debygol hefyd iddi gael ei chanu gan y bardd yn llys yr esgob ym Mangor. Molir Madog am ei haelioni eithriadol yn y gerdd, fel "Dôr ac iôr Bangor" "heilwin" (hael a'i win), ac er bod hynny yn nodwedd gyffredin yn y canu mawl fe all fod yn wir yn achos Madog.[1]
Cwyna ei olynydd Thomas Ringstede fod Madog wedi esgeuluso adeiladau'r eglwys gan gyfeirio at "waste and dilapidations". Efallai mai cyfeirio at fywyd moethus yr esgob yn ei lys yn cadw bwrdd agored a gwahodd beirdd sydd yma.[1]