Maspalomas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Maspalomas
Maspalomas.jpg
Mathdinas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSan Bartolomé de Tirajana Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.76057°N 15.586017°W Edit this on Wikidata
Cod post35100 Edit this on Wikidata
Map

Mae Maspalomas yn un o drefi twristaidd hynaf arfordir deheuol Gran Canaria yn yr Ynysoedd Dedwydd. Mae Maspalomas yn rhan o ardal San Bartolomé de Tirajana. O bosib, tarddia'r enw o Rodrigo Mas de Palomar, milwr o Majorca a ymgartrefodd yno neu o Francisco Palomar, ffrind i Alonso Fernadez de Lugo a brynodd 87 caethwas o Güímar ac ymgartrefodd yn yr ardal.

Mae Maspalomas yn enwog am dwristiaeth, y gwestai, traethau, twyni tywod, llety gwyliau a chyfleusterau eraill gan gynnwys bwytai, tafarndai, canolfannau siopa a busnesau eraill.

Ceir yno oleudy 68m o uchder, El Faro de Maspalomas ar y man mwyaf deheuol. Mae'r traeth yn 12 km o hyd ac mae'r twyni tywod wedi bod yn warchodfa natur ers 1897. I'r gogledd, arweinia'r traeth at ganolfan wyliau Playa del Inglés.