Marysville (Victoria)
Gwedd
| Math | tref |
|---|---|
| Poblogaeth | 394, 501, 453 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Awstralia |
| Uwch y môr | 421 metr |
| Yn ffinio gyda | Buxton, Narbethong, Fernshaw, Eildon, East Warburton, Rubicon, Cambarville, McMahons Creek |
| Cyfesurynnau | 37.5°S 145.7333°E |
| Cod post | 3779 |
![]() | |


Mae Marysville yn dref yn nhalaith Victoria, Awstralia, 34 cilomedr i'r gogledd-ddwyrain o Healesville a 41 cilomedr i'r de o Alexandra. Mae twristiaeth yn bwysig i'r ardal. Mae Rhaeadr Steavenson i de-ddwyrain y dref, ar Afon Steavenson, sydd yn llifo trwy barc Gallipoli ynghanol Marysville.[1]
Ar 7 Chwefror 2009, lladdwyd 34 o bobl y dref gan dân. Llosgwyd 90% o'r adeiladau. Er fod y tywydd yn anarferol o boeth, credwyd bod y tân wedi cael ei ddechrau'n fwriadol.[2]
Erbyn hyn mae 'Amgueddfa Dydd Sadwrn Du' yn cofnodi'r digwyddiad[3]
Enwogion y dref
[golygu | golygu cod]- Bruno Torfs, cerflunydd.
- Dave Alleway, telynor.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan travelvictoria
- ↑ The Guardian, 17/1/2010
- ↑ "Gwefan Amgueddfa Dydd Sadwrn Du". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-27. Cyrchwyd 2015-11-24.
